Mae dyn 19 oed a bachgen 14 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o weiddi sylwadau hiliol at brotestwyr Black Lives Matter, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd y ddau, sydd ddim wedi cael eu henwi, eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn dilyn y digwyddiad yn Hwlffordd.

Dywed yr heddlu bod oddeutu 70 o bobol wedi mynychu protest gwrth-hiliaeth yng Nghaeau Picton yn y dref nos Fercher (Mehefin 15).

“Yn anffodus, gwelodd swyddogion oedd yn bresennol ddyn a bachgen yn gweiddi nifer o sylwadau hiliol tuag at y sawl oedd wedi mynychu’r brotest.

“Roedd y sylwadau, yn naturiol, wedi achosi loes i’r rhai oedd yn y brotest ac wedi eu clywed.

“Mae’r ddau gafodd eu harestio wedi cael eu cludo i’r ddalfa yn Hwlffordd, ac maen nhw’n parhau yno.”

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un  a oedd wedi gweld y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101.

Ym mis Mehefin, roedd Cyngor Tref Hwlffordd wedi esbonio nad oedd enw’r parc, ynghyd a Chastell Picton a’r Ganolfan Picton, yn cyfeirio at Syr Thomas Picton oedd yn gysylltiedig â chaethwasiaeth, yn dilyn galwadau i dynnu’r cerfluniau ohono.