Mae ymgyrch gan y grwpiau ymgyrchu, Mae Hanes Cymru’n Cyfri a Llysgenhadaeth Owain Glyndŵr, yn galw ar Brifysgol Aberystwyth i gael gwared â cherflun o Edward VIII sydd ger yr Hen Goleg.
Dyma’r unig gerflun cyhoeddus o’r brenin yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl Siân Ifan, sydd yn gyfrifol am greu deiseb i gael gwared â’r cerflun: “Mae sawl ymosodiad wedi bod ar y gofeb dros y blynyddoedd, rhai wedi taflu paent arno, ac eraill wedi trio torri ei ben.”
Noson cyn y dadorchuddio yn 1922 taflwyd gwyngalch dros y cerflun, rhoddwyd crafet coch am ei wddf, pib yn ei geg a doli yn ei freichiau.
Er hyn, bron i gan mlynedd yn ddiweddarach mae’r cerflun dadleuol yn dal i sefyll ar dir y brifysgol.
“Tra bod yr haearn yn boeth yn y tân”
Eglurodd Siân Ifan fod Llysgenhadaeth Glyndŵr wedi bod yn ymgyrchu i gael gwared â symbolau trefedigaethol yng Nghymru ers blynyddoedd, gan gynnwys cerfluniau ac enwau strydoedd.
Ar ôl gweld protestwyr Black Lives Matter yn tynnu cofeb i Edward Colston, masnachwr caethweision, i lawr ym Mryste fis Mehefin penderfynwyd creu deiseb i geisio cael gwared â cherflun Edward VIII yn Aberystwyth.
“Mae’n amser i wneud rhywbeth am hyn rŵan tra bod yr haearn yn boeth yn y tân,” meddai.
“Wth i’r holl fusnes yma ddod i’r wyneb o gael gwared ar gofebau trefedigaethol, un o’r rhai pwysicaf i gael gwared ohono yng Nghymru yw hwn yn Aberystwyth.
“Wrth gwrs mae iawnderau pobol croenddu yn cyfri, ond mae Cymru’n drefedigaeth o Loegr a Phrydain hefyd, a chael ychydig o gydbwysedd oedd sail y ddeiseb i dynnu sylw at y ffaith fod hanes Cymru’n cyfri hefyd.
“Yn sicr dydy’r cerflun ddim yn un dylem ni ei barchu yn Aberystwyth, a ddim yn gerflun dylai myfyrwyr edrych i fyny ato.”
Edward VIII oedd Canghellor Prifysgol Cymru pan ddadorchuddiwyd y cerflun yn 1922.
Ildiodd Edward VIII, sydd yn ewythr i frenhines Elizabeth II, y goron yn 1936 am ei fod am briodi’r Americanes Wallis Warfield Simpson a oedd wedi cael ysgariad.
Llofnodion coll
Hyd yn hyn mae’r ddeiseb arlein wedi ei harwyddo gan 50 o bobol, ond mae Siân Ifan yn credu fod nifer o lofnodion wedi mynd ar goll.
“Ar hyd y blynyddoedd rydym wedi cael lot o drafferth wrth roi pethau arlein.
“Rydym yn amau fod y ffigurau iawn ddim yn cael eu rhoi ar ein cyfrifon.
“Mae nifer o bobol wedi dweud wrthyf eu bod nhw bendant wedi llofnodi – ond doedd eu henwau ddim yn cyrraedd y ddeiseb am ryw reswm.”
Oherwydd hyn mae Siân Ifan wedi ysgrifennu at Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth am y cerflun, ac wedi galw ar bobol eraill i wneud yr un peth.
“Dwi wedi ysgrifennu at yr is-ganghellor yn esbonio fod pobol am gael gwared â’r cerflun yma sydd ddim yn haeddu ei le yn Aberystwyth, yn enwedig oherwydd ei gysylltiadau gyda Natsïaeth ac yn y blaen.
“Mae digon o arwyr Cymraeg byddai’n gallu cymryd ei le, mae digon o arwyr sydd hefyd wedi mynychu’r brifysgol.”
Ychwanegodd Siân Ifan fod sawl cerflun arall hoffai weld yn cael ei dynnu lawr yng Nghymru, gan gynnwys cerfluniau o’r cyn-brif Weinidog, Lloyd George.
Adolygu a gweithredu
Mewn ymateb i’r ddeiseb i gael gwared â’r cerflun o Edward VIII eglurodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth wrth Golwg360 fod y Brifysgol wedi dechrau’r gwaith o adolygu cofebau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.
“Mae’r dadleuon cyhoeddus diweddar am effaith clodfori cyfraniadau rhai unigolion hanesyddol yn rhai pwerus sydd wedi peri i sefydliadau a llywodraethau i ailystyried eu hagweddau mewn rhai achosion.
“Yn achos Prifysgol Aberystwyth rydym eisoes wedi penderfynu adolygu unrhyw enghreifftiau sydd yn gysylltiedig â’r Brifysgol gyda bwriad clir o weithredu yn unol â’r canfyddiadau.”