Mae golygyddion Gwerddon Fach, Dr Anwen Jones a Dr Hywel Griffiths, wedi ennill gwobr am yr Adnodd Cyfrwng Cymraeg gorau yng ngwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Daeth Gwerddon Fach yn gydradd gyntaf â’r Llawlyfr Daearyddiaeth.

Mae Gwerddon Fach yn rhoi cyfle i academyddion ac ymchwilwyr rannu eu hymchwil mewn partneriaeth â golwg 360.

Roedd tri wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr, ond daeth Gwerddon Fach a’r Llawlyfr Daearyddiaeth i’r brig.

Cafodd Gwerddon Fach ei enwebu gan Elinor Gwynn sy’n fyfyrwraig PhD Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’n wych cael Gwerddon Fach fel adnodd sydyn, rhwydd er mwyn cadw lan gyda’r gwaith ymchwil sy’n digwydd ledled Cymru,” meddai.

“Mae’n adnodd gwych i ddysgwyr ac mae hefyd yn cynnig cyfle i ymestyn y gynulleidfa i greu rhwydwaith ehangach, yn cynnwys myfyrwyr sy’n astudio y tu hwnt i Gymru, ond efallai’n awyddus i ddod yn ôl i astudio ymhellach neu i fyw a gweithio yng Nghymru.”

Ac wrth siarad â golwg360, dywedodd un o olygyddion Gwerddon Fach, Dr Hywel Griffiths ei fod “wrth ei fodd” ar ôl ennill y wobr.

“Mae’n wych gallu trio dod ac ymchwil i gynulleidfaoedd newydd, a gobeithio y bydd mwy a mwy o erthyglau’n cael eu cyhoeddi,” meddai wrth golwg360.

“Diolchgar iawn i Dylan Iorwerth”

Mae Dr Hywel Griffiths hefyd wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “ddiolchgar iawn” i sylfaenydd golwg Dylan Iorwerth am ei help wrth sefydlu a datblygu Gwerddon Fach.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Dylan Iorwerth, sydd wedi gwneud gwaith mawr gyda ni er mwyn sefydlu hwn,” meddai.

“Mae wedi bod yn brofiad diddorol iawn gweithio â golwg, dysgu gan newyddiadurwr sut i sgwennu i gynulleidfa wahanol,  a sgwennu’n fwy cryno er mwyn dal diddordeb darllenwr.”

Beth nesa i Gwerddon Fach?

Dywed Dr Hywel Griffiths y bydd Gwerddon Fach yn parhau i “annog ymchwilwyr i sgwennu mwy o erthyglau.”

Bydd erthyglau hefyd yn parahau i gael eu cyhoeddi ar ffrwd ‘Gwerddon Fach’ golwg360.

“Rydym wastad yn chwilio am fwy o gyfranwyr, mae yno wastad wahoddiad yn agored i academyddion ag ymchwilwyr yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Dr Hywel Griffiths wrth golwg360.