Arwydd o “lwyddiant” yw’r ffaith bod Cymru yn rhoi mwy o gyfarpar diogelwch personol (PPE) nag y mae’n derbyn gan weddill y Deyrnas Unedig, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Daeth sylw Vaughan Gething fore heddiw (Dydd Iau, Gorffennaf 16) wrth iddo ateb cwestiynau gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei ymateb i’r argyfwng covid-19.

Roedd Rhun ap Iorwerth, un o aelodau’r pwyllgor, wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru wedi derbyn 1.4 miliwn darn o PPE  a rhoi 15 miliwn.

Holodd os oedd y gweinidog yn gweld hynny’n “od”, ond aeth Vaughan Gething ati i ddadlau mai rhywbeth positif yw hyn.

“Yma yng Nghymru rydym wedi gwrthsefyll pwysau eithafol y pandemig yma,” meddai. “Ac yn ogystal â delio ag anghenion Cymru rydym hefyd wedi helpu Lloegr â’i heriau hithau.

“Yn y bôn mae hyn yn stori o lwyddiant i Gymru. Rydym wedi gallu cynorthwyo gwledydd eraill y Deyrnas Unedig heb danseilio ein cyflenwad ein hunain.”

Y berthynas â Lloegr

Wrth ateb Rhun ap Iorwerth roedd y gweinidog yn siarad am rai gwledydd mewn ffordd tipyn yn fwy positif.

Dywedodd bod y Llywodraeth wedi bod yn “falch” i helpu’r Alban a Gogledd Iwerddon, a bod y berthynas â’r ddwy wlad wedi bod yn dda.

Mi bwysleisiodd bod “sustem Lloegr wedi profi trafferthion sylweddol iawn” ond ategodd ei fod wedi bod yn “hapus” i helpu’r wlad.

“Rhaid i ni gynnal y berthynas yma gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig,” meddai. “Ac nid yn unig oherwydd y gallen nhw ofyn am ein help ni yn y dyfodol.

“Mae’n hollol bosib, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ni ofyn am help gwledydd eraill – dyna oedd y sefyllfa ar ddechrau’r pandemig.”

“Pwysau aruthrol”

Tynnodd rhywfaint o sylw at ddechrau’r argyfwng pan oedd pryderon mawr am gyflenwadau PPE Cymru, a dywedodd bod yna “bwysau aruthrol” bryd hynny.

Bellach mae gan Gymru cyflenwad PPE o 108 miliwn, meddai, ac mae 670 miliwn yn rhagor wedi’u harchebu.

Wrth edrych at y dyfodol, roedd yn gymharol ffyddiog a dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn parhau i gydweithio â chynhyrchwyr PPE yng Nghymru.