Mae bron i draean o gwmnïau’r Deyrnas Unedig yn bwriadu cael gwared a staff dros y tri mis nesa’, yn ôl adroddiad.
Yn ôl rhagolwg Siambr Fasnach Prydain (BCC) mae 29% o’r cwmnïau wnaethon nhw eu holi yn rhagweld y byddan nhw’n cwtogi swyddi – y ffigwr uchaf erioed gan yr astudiaeth.
Mae’r adroddiad – a gafodd ei wneud ar y cyd â Totaljobs – hefyd yn dangos bod 28% o’r cwmnïau eisoes wedi cael gwared a swyddi rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
Mae 41% o gwmnïau mawr, a 41% o gwmnïau bach a chanolig, yn disgwyl gorfod torri swyddi dros y misoedd nesa’. Mae 18% o fusnesau micro yn disgwyl gorfod gwneud hynny.
“Mae llawer o fusnesau yn wynebu pwysau ariannol, ac mae llai o alw am eu gwasanaethau neu nwyddau,” meddai cyd-Gyfarwyddwr Gweithredol y BCC, Hannah Essex.
“Mae hynny’n golygu y bydd llawer o gwmnïau yn ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau er gwaetha’r camau [sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig].”
Llywodraeth San Steffan
“Trwy gydol y pandemig rydym wedi gweithredu ar frys i ddiogelu swyddi a chyflogau gyda’n pecyn cymorth, sydd yn dod at gyfanswm £160bn hyd yma,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Roedd y cyhoeddiad ‘cynllun am swyddi’ a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwetha’, gan gynnwys y Bonws Cadw Swyddi, a’r Cynllun Kickstart, yn rhoi hyder i fusnesau allu cadw gweithwyr a chyflogi rhagor, ac i greu swyddi newydd ym mhob rhan o’n gwlad.”
Cynlluniau
Dan gynllun y Bonws Cadw Swyddi bydd cwmnïau yn derbyn £1,000 am bob gweithiwr ar ffyrlo sydd yn dychwelyd i weithio.
Cafodd y cynlluniau yma eu cyhoeddi gan y Canghellor, Rishi Sunak, yn natganiad yr haf yr wythnos ddiwetha’.
Mae BCC a Totaljobs wedi croesawu’r camau yma, ond maen nhw wedi galw am ragor o weithredu, gan gynnwys cwtogiad dros dro i’r tâl Yswiriant Cenedlaethol.