Mae Jonathan Edwards wedi cael ei wahardd o Blaid Cymru am 12 mis ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu.

Roedd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi derbyn rhybudd ym mis Mehefin ar ôl cael ei arestio yn ei gartref ym mis Mai ar amheuaeth o ymosod.

Yn ôl adroddiadau, mae panel disgyblu Plaid Cymru wedi dod i’r casgliad bod “rhybudd heddlu wedi bod yn fater difrifol”.

Er mwyn codi’r gwaharddiad ar ddiwedd y deuddeg mis bydd yn rhaid iddo ymddangos gerbron y panel a dangos ei fod wedi “myfyrio ar ei weithredoedd”, meddai Plaid Cymru.

Mae Jonathan Edwards wedi dweud ei fod yn derbyn penderfyniad y panel disgyblu yn llwyr.

Cefndir

Cafodd Jonathan Edwards ei arestio ar Fai 20, ac yn dilyn hynny cafodd ei ddiarddel dros dro o grŵp Plaid Cymru yn San Steffan.

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi fis diwetha’ dywedodd: “Dyma’r peth rwy’n ei ddifaru fwyaf yn fy mywyd o bell ffordd.”

Mae ei wraig hefyd wedi gwneud sylw am y mater, ac wedi dweud ei bod hi wedi derbyn ymddiheuriad ei gŵr.

“Drwy gydol y degawd rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd, mae e wedi bod yn ŵr a thad cariadus a charedig,” meddai bythefnos yn ôl. “O’m rhan i, mae’r mater bellach ar ben.”

Datganiad ar ran y panel disgyblu

“Roedd Jonathan Edwards wedi cyfeirio ei hun at broses disgyblu’r blaid, ac roedd wedi cydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliad.

“Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, wnaeth y panel ddyfarnu gwaharddiad 12 mis o’r blaid. Er mwyn codi’r gwaharddiad ar ôl 12 mis bydd yn rhaid i Mr Edwards ymddangos gerbron y panel a dangos ei fod wedi treulio cyfnod o amser yn myfyrio ar ei weithredoedd ac yn dysgu ohonyn nhw.

“Mae rhybudd am ymosod cyffredin yn fater difrifol, ac os bydd Mr Edwards yn methu a chydymffurfio ag amodau y gwaharddiad mi fydd yn cael ei wahardd yn barhaol.”

Datganiad ar ran Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones

“Mae Plaid Cymru yn condemnio unrhyw ymddygiad sydd yn methu â chyrraedd ein disgwyliadau o’n haelodau.

“Mae’r Blaid wedi ymdrin â’r mater mewn ffordd difrifol, ac mae cyflymder a chanlyniad y broses disgyblu yn adlewyrchu hynny.

“Mae pob aflonyddwch, camdriniaeth, a thrais o bob math yn annerbyniol, ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn y canlyniad.”