Mae nifer y gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan gwmnïau yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng 649,000 yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws wrth i 74,000 o swyddi ddiflannu fis diwethaf.

Yn ôl ffigurau swyddogol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae amcangyfrifon yn dangos bod nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi wedi gostwng 1.9% ym mis Mehefin i 28.4 miliwn, ac o 0.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei bod yn ymddangos bod y diswyddiadau wedi arafu ym mis Mehefin gyda cheisiadau am Gredyd Cynhwysol gan bobl sy’n ddi-waith ac ar incwm isel yn gostwng 28,100 rhwng mis Mai a Mehefin i 2.6 miliwn.

Yng Nghymru mae 1% yn llai yn ddiwaith ar 2.7%.

Argyfwng

Ond mae nifer y ceisiadau wedi mwy na dyblu ers mis Mawrth gan gynyddu 112.2% neu 1.4 miliwn, arwydd clir o’r argyfwng swyddi, meddai’r ONS.

Roedd diweithdra wedi gostwng 17,000 rhwng mis Mawrth a Mai i 1.35 miliwn, yn ôl yr ONS.

Dywed arbenigwyr bod hyn yn celu gostyngiad mewn cyflogaeth, o 126,000 yn y chwarter i 32.95 miliwn, gyda’r raddfa’n gostwng i 76.4%.

Gyda 9.4 miliwn o bobl ar ffyrlo ac sy’n cael eu hystyried yn gyflogedig, mae’n debyg na fydd effaith yr argyfwng yn cael ei weld nes bydd y cynllun cymorth cyfredol yn dod i ben ym mis Hydref.

Dywedodd canghellor cysgodol yr wrthblaid Anneliese Dodds bod y ffigurau’n dangos bod angen parhau gyda’r cymorth i’r sectorau hynny sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf.