Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle’r gwrthdrawiad, rhwng Garndolbenmaen a Phenmorfa,  am 3.30 brynhawn dydd Mercher (Gorffennaf 15).

Roedden nhw wedi derbyn adroddiadau bod car Volkswagen Polo coch, a lori felen, wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Bu farw’r ddynes oedd yn gyrru’r car Polo a’r ddynes oedd yn teithio gyda hi, yn y fan a’r lle, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

“Rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd y rheiny a fu farw. Byddan nhw’n cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluol arbennig,” meddai’r Sarsiant Emlyn Hughes.

Apêl

Bu’r ffordd ynghau tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad ond mae bellach wedi ail-agor. Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu ar y we, gan ddyfynnu’r cyfeirnod, Y100773.