Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad yn dilyn ymosodiad rhywiol honedig ar blentyn 6 oed ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin.

Mae swyddogion yn ymchwilio i honiadau bod dyn yn ei 40au neu 50au wedi mynd at y bachgen yn y Parc Gwledig ger pentref Pen-bre ddydd Sadwrn (Gorffennaf 11) a’i gyffwrdd.

Yn ôl yr heddlu mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, chwe throedfedd o daldra gyda gwallt byr, blêr wedi britho. Credir ei fod yn gwisgo crys-t glas a het ac yn cario sach gefn du.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod swyddogion yn parhau i fod ar batrôl yn yr ardal.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld dyn tebyg i’r disgrifiad neu sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad i gysylltu â nhw ar-lein neu drwy ffonio 101.

Mae’r parc 500 acer yn atyniad twristaidd gyda mannau chwarae, seiclo a sgïo.