Mae NFU wedi galw am “feddylfryd ffres ar ddyfodol polisi bwyd a ffermio yng Nghymru” er mwyn cychwyn adferiad economaidd gwyrdd yn dilyn pandemig y coronafeirws.

Mae’r papur polisi’n galw am bolisi ffermio sy’n gwarchod cyflenwadau bwyd y wlad ac yn cynnal cymunedau a diwylliant yn ardaloedd gwledig Cymru.

Byddai’r NFU hefyd yn awyddus i weld Comisiwn Bwyd a Ffermio yn cael ei greu yng Nghymru er mwyn goruchwylio polisi bwyd a ffermio’r dyfodol.

“Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n bywydau ni gyd,” meddai Llywydd NFU Cymru, John Davies.

“Mae’r profiad rydym wedi ei ennill yn darparu cyfle i edrych yn ffres ar ddyfodol polisi bwyd a ffermio yng Nghymru.

“Rydym yn credu ei bod hi’n allweddol ein bod yn ystyried uchelgais ein polisi amaeth at y dyfodol.”

Mae’r adroddiad hefyd galw am ffocws ar ymchwil a datblygu, a buddsoddi yn y technolegau diweddaraf.

Caiff arloesi hefyd ei gydnabod fel allweddol wrth gryfhau’r sector ffermio.

“Dyw pandemig y coronafeirws ddim drosodd eto,” ychwanegodd Mr Davies. “Mae gan ffermwyr ar draws Cymru rôl allweddol wrth fwydo’r genedl yn ystod yr argyfwng ac rydym wedi crybwyll nifer o fesurau i gefnogi parhad busnesau yn y dyfodol agos a chanolig.”