Mae cyfarwyddwr o Sir Aberteifi wrthi’n cynhyrchu ffilm, wedi ei hanimeiddio, am iselder ac iechyd meddwl ymhlith y gymuned ffermio er mwyn codi arian i elusen.

Ac mae’n gwneud hynny er ei fod yn honni iddo ddioddef iselder yn deillio o’r ffaith iddo gael ei watwar pan oedd yn ei arddegau, am ei acen Seisnig.