Mae Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, bellach yn destun proses ddisgyblu mewnol ym Mhlaid Cymru ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu.

Cafodd ei arestio yn dilyn digwyddiad yn ei gartref ar Fai 20.

Roedd e eisoes wedi’i wahardd o grŵp seneddol y blaid, ac roedd e’n destun ymchwiliad ar ôl cyfeirio’i hun at bwyllgor disgyblu’r blaid.

Mae Alun Ffred Jones, cadeirydd y blaid, wedi cyhoeddi datganiad, yn ogystal â Jonathan Edwards ei hun, a’i wraig Emma Edwards.

Datganiad Jonathan Edwards

Mae Jonathan Edwards wedi ymddiheuro mewn datganiad personol.

“Mae’n flin iawn gen i,” meddai.

“Dyma’r peth rwy’n ei ddifaru fwyaf yn fy mywyd o bell ffordd.

“Fe wnes i gydymffurffio’n llwyr â’r heddlu ac ymddwyn er lles fy ngwraig a’m plant oedd fy mhrif gymhelliant drwy gydol y cyfan.

“Rwyf wedi cyfeirio fy hun at ymchwiliad gan fy mhlaid.

“Fy mlaenoriaeth nawr yw cydweithio â’m gwraig er mwyn sicrhau dyfodol mor sefydlog â phosib i’n teulu.”

Datganiad Emma Edwards

Yn ei datganiad hithau, dywed Emma Edwards ei bod hi wedi derbyn ymddiheuriad ei gŵr.

“Drwy gydol y degawd rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd, mae e wedi bod yn ŵr a thad cariadus a charedig,” meddai.

“O’m rhan i, mae’r mater bellach ar ben.”

Datganiad Alun Ffred Jones

“Rydym yn ymwybodol o’r datganiad personol a wnaed gan Mr Edwards, sy’n cydnabod bod ei weithredoedd islaw’r hyn a ddisgwylir,” meddai Alun Ffred Jones, cadeirydd Plaid Cymru, mewn datganiad.

“Cyhoeddodd Mr Edwards y datganiad gyda chefnogaeth ei deulu a gofynnwn i’w preifatrwydd gael ei barchu.

“Mae Mr Edwards wedi cyfeirio ei hun at bwyllgor disgyblu’r blaid ac mae wedi ei ddiarddel dros dro.

“Gan fod y broses hon yn mynd rhagddi, ni fyddwn yn rhoi sylwadau pellach ar hyn o bryd.”