Mae fideo gan Fragdy Llangollen wedi corddi’r dyfroedd ar ôl awgrymu mai ‘Clan-Goth-Len’ yw’r ffordd i ynganu Llangollen.
Mae’r fideo’n ymddangos ar dudalen Facebook y cwmni.
Mae’n dechrau gydag unigolyn yn cerdded i mewn i’r dafarn ac yn gofyn am “pint of Langolen”, a dyn yn chwarae pŵl yn baglu dros y ciw wrth glywed yr ynganiad anghywir.
Mae’r fideo’n mynd yn ei blaen wrth i griw’r dafarn ganu “If you want a pint of… It’s Llangollen” gan ynganu enw’r lle yn gywir wrth restru holl gyrfau’r bragdy, ond mae’r capsiwn ar y sgrîn yn dweud “It’s Clan-Goth-Len”.
Ymateb
Mae llond dwrn o bobol wedi ymateb i’r fideo, gan feirniadu’r bragdy.
Daw’r feirniadaeth yn fuan ar ôl i ddeiseb i warchod enwau Cymraeg ddenu miloedd o lofnodion.
“Mae’n iawn, bydda i’n archebu o fragdy Cymreig go iawn nid yr un yma,” meddai un person wrth ymateb.
“Mae digon o fragdai Cymreig eraill i archebu ganddyn nhw,” medd un arall.
Er hynny, mae un person lleol yn amdiffyn y bragdy, gan ddweud y byddai “llawer yn deallt y jôc”.
“Mae genai ofn bod yr ymateb yn glir beth sydd yn anghywir gyda agwedd pobl Cymraeg. Fel Cymraes!!” meddai Susie Jones wrth wneud sylw ar y neges.
“Hollol siomedig yn fy nghyd-Gymry a’u tuedd anffodus ac anallu amlwg i dynnu ynghyd i gael cynnyrch lleol Cymreig ar y map.
“Teimlo braidd yn siomedig!!!
“Fel person o Llangollen dwi’n gweld yr hwyl yn hyn ac yn gwybod fydd yna llawer yn deallt y jôc.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y bragdy.
Brewed in Wales. By nice people.
It's Clan-Goth-Len if you want to order from LlangollenBrewery.comAnd you also need to be 18 or over.It's brewed in Wales. By nice people.
Posted by Llangollen Brewery on Friday, 26 June 2020