Mae dros 11,000 o bobol bellach wedi arwyddo deiseb yn galw am warchod enwau tai Cymraeg.
Cafodd ei lansio ar ddechrau’r wythnos, ac mi lwyddodd i ddenu dros 5,000 o lofnodion o fewn 24 awr.
Pan fydd deiseb yn casglu dros 5,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu deddf i atal newid enwau Cymraeg tai yng Nghymru.
“Mae ‘na batrwm hyd a lled Cymru lle mae perchnogion newydd yn newid enwau tai i’r Saesneg,” meddai testun y ddeiseb.
“[Does dim] rhaid mynd yn bell i weld tystiolaeth! Mae’r wlad yn colli ei etifeddiaeth mewn camau bychain. Rhaid atal hyd i’r cenedlaethau sydd i ddod, beth bynnag eu hiaith.”
Huw Edwards yn rhannu ei farn
Mae’r darlledwr BBC, Huw Edwards, wedi rhannu ei farn am y mater ar Twitter, ac wedi tanio trafodaeth danllyd.
Mae yna enghreifftiau “erchyll a sarhaus” o enwau Cymraeg yn cael eu disodli, meddai.
Ac mae wedi bod yn ymateb i feirniadaeth gan gynghorydd Torïaidd o Gaerdydd ar y mater:
Sorry mate just a word of advice — don’t go on any foreign hols after lockdown — lots of dodgy names to cope with. Stay in Llanishen? ? Diolch. ??????? https://t.co/hxgty0ULLy
— Huw Edwards (@huwbbc) June 25, 2020
Cefndir
Mae’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Dai Lloyd, eisoes wedi rhoi cynnig ar gyflwyno deddf i warchod enwau Cymraeg.
Rhai blynyddoedd yn ôl ceisiodd gyflwyno Mesur i ddiogelu enwau lleoedd – o bob iaith – yng Nghymru, ond yn 2017 cafodd y cynnig ei wrthod.
Fe gafodd y ddeiseb bresennol ei sefydlu gan Robin Davies:
— Robin Davies (@robinaled) June 21, 2020