Mae tensiynau ynglŷn â sut i ddelio gyda honiadau o wrth-semitiaeth yn y Blaid Lafur wedi dod i’r amlwg eto wedi i Syr Keir Starmer ddiswyddo Rebecca Long-Bailey.
Daeth hyn wedi iddi rannu erthygl ar gyfryngau cymdeithasol oedd – meddai Syr Keir Starmer – yn cynnwys theori gwrth-Semitaidd.
Yn yr erthygl, dywed yr actor Maxine Peake fod yr heddweision oedd yn gyfrifol am farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau wedi dysgu eu tactegau gan wasanaeth cudd Israel.
Cafodd yr honiad ei wadu gan Israel, ac yn hwyrach fe wnaeth Maxine Peak gydnabod ei fod yn anghywir.
Mae Rebecca Long-Bailey yn cydnabod bod yr honiad wedi achosi “gofid” ond dywed bod angen i wleidyddion drafod materion megis creulondeb gan yr heddlu.
“Mae yno ofidion dilys ynglŷn â gweithredoedd yr heddlu ar draws y byd, a dwi ddim yn meddwl bod hi’n hiliol na gwrth-Semitaidd i drafod hynny yn y ffordd iawn,” meddai Rebecca Long-Bailey.
Aeth Rebecca Long-Bailey ymlaen i ddweud ei bod hi’n “hynod drist” yn dilyn penderfyniad Syr Keir Starmer i’w diswyddo, tra bod grwpiau Iddewig wedi ei ganmol am weithredu’n gyflym.
Dywed Syr Keir Starmer mai ei “brif nod” yw ailadeiladu ymddiriedaeth gyda’r gymuned Iddewig.
“Dwi ddim yn meddwl bod rhannu’r erthygl yna wedi helpu ein hymgyrch i ailadeiladu ein perthynas â’r gymuned Iddewig a dyna pan wnes i ddiswyddo Rebecca Long-Bailey,” meddai.
Ymateb o fewn y Blaid Lafur
Mae’r Aelod Seneddol, Y Fonesig Margaret Hodge, sy’n Iddewes ac yn wrthwynebwr mawr i Jeremy Corbyn, wedi dweud: “Dyma sut mae newid cyfeiriad yn edrych… dyma sut mae ailadeiladu perthynas â’r gymuned Iddewig yn edrych.”
Fodd bynnag, roedd yno ymateb blin gan rai o gefnogwyr Jeremy Corbyn, y cyn-Arweinydd Llafur.
Dyma ddywedodd John McDonnell, cyn-Ganhellor yr wrthblaid yn San Steffan.
“Drwy gydol y drafodaeth ynglŷn â gwrth-Semitiaeth mae hi wedi bod yn wir nad yw beirniadaeth o Israel yn wrth-Semitaidd.
“Dwi ddim yn credu fod yr erthygl yn (wrth-Semitaidd) a dwi ddim yn credu y dylai Rebecca Long-Bailey fod wedi cael ei diswyddo”.