Fydd cyfyngiadau’r cyfnod clo ddim yn cael eu llacio os bydd pobol yn parhau i godi cynnwrf ar draethau Cymru – mae ymgynnull mewn grwpiau mawr yn anghyfreithlon yng Nghymru ar hyn o bryd.

Daw rhybudd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn sgil aflonyddwch yn Aberogwr, ym Mro Morgannwg, gyda’r hwyr ar ddydd Iau.

Mae fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos torf fawr o bobol mewn maes parcio ger y traeth, gyda rhai yn ymladd.

Ar hyn o bryd mae pobol yn cael eu cynghori i aros o fewn pum milltir i’w cartref, ond mae disgwyl i hynny gael ei lacio ar Orffennaf 6. Er hynny, mae’r Prif Weinidog wedi rhoi rhybudd i’r cyhoedd.

“Fyddwn ni methu a dal ati i lacio cyfyngiadau os bydd pethau – fel y gwelsom neithiwr -yn parhau i ddigwydd,” meddai ar Twitter.

“Mae’r [pobol yma] yn bygwth iechyd pobol yng Nghymru, ac maen nhw’n tanseilio aberthau’r mwyafrif.”

Ymgynnull ar draethau

Mae dau ddyn yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiad yn Aberogwr ar ddydd Iau, yn ôl Heddlu’r De.

Wnaeth swyddogion gael gwared ar dorf, ond wnaeth rhai dychwelyd rhai oriau yn ddiweddarach.

Yn ôl rhai adroddiadau wnaeth pobol ymgynnull ar Ynys y Barri, ac ar draethau yn Abertawe. Mae ymgynnull yn grwpiau mawr yn anghyfreithlon yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae cannoedd wedi ymateb i neges Mark Drakeford, gydag ambell un yn ei gyhuddo o fygwth, ac eraill yn ei gyhuddo o osod cynsail trwy beidio â rhwystro protestiadau gwrth-hiliaeth.

Fideo o ffrwgwd