Mae dau ddyn wedi cael eu harestio gan yr heddlu ar ôl i sawl fideo gael eu rhannu ar-lein yn dangos ffrwgwd ar draeth.

Roedd y clipiau yn dangos torfeydd mawr o bobol yn Aberogwr, Bro Morgannwg, cyn i bethau droi’n dreisgar am tua 8 o’r gloch nos Iau (Mehefin 24).

Gwnaeth y Cyngor benderfyniad i gau’r maes parcio.

“Maen nhw’n agor y meyseydd parcio ac mae yno ffrwgwd yn digwydd, beth sy’n mynd ymlaen?” meddai un person ar Trydar

Dywed Heddlu De Cymru bod dau ddyn yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio, gyda thyst yn dweud bod o leiaf un person wedi brifo.

Er bod swyddogion wedi torri’r dorf i fyny, bu i rai ohonynt ddychwelyd ychydig oriau’n ddiweddarach.

Yng Nghymru, mae’n anghyfreithlon i ymgynnull mewn grwpiau mawr ac mae cyngor Llywodraeth Cymru’n dweud na ddylai pobol deithio tu hwnt i’w hardal leol.

Ond wrth i dymereddau godi ar draws Cymru, bu’n rhaid i’r heddlu, y cyngor a’r Sefydliad Bad Achub Cenedlaethol ymateb i’r torfeydd o bobol ar y traeth.

Bu i’r heddlu annog rhieni i “ffeindio allan lle mae eich plant” nos Iau (Mehefin 24) gan fod “niferoedd mawr o bobol ifanc” yn ymgynnull ar draws yr arfordir.