Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn achub theatrau Cymru, sy’n wynebu dyfodol “llwm iawn”.

Dywed yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllïan bod angen cymorth ariannol ar y sector celfyddydau yn sgil effaith pandemig y coronaferiws.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru lunio cynllun pwrpasol ar gyfer y diwydiant hwn sydd mewn trafferthion, gan ddefnyddio ei hadnoddau ei hun cystal ag y gall yn niffyg cefnogaeth gan y Torïaid yn San Steffan,” meddai.

“Siawns nad oes hyblygrwydd yn y cynllun ar gennad (ffyrlo) fel y gall ei gweithwyr barhau i gael eu talu tra bod diwydiannau eraill yn gallu dechrau eto?”

Mae Cyfarwyddwr Artistig theatr Arad Goch, Jeremy Turner, yn mynnu mai arian ychwanegol yw’r “unig ffordd” y bydd theatrau Cymru’n gallu goroesi ar ôl y feirws.

“Rydym mewn sefyllfa eithaf anobeithiol fel mae’n sefyll – mae incwm o berfformiadau byw wedi diflannu tra bod theatrau ar gau, sy’n golygu mai arian ychwanegol yw’r unig ffordd y bydd theatr yn goroesi ac yn parhau i fod yn hyfyw yng Nghymru,” meddai.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian yn llifo drwy’r diwydiant i’w gadw i fynd, bydd dyfodol y theatr Gymraeg yn llwm iawn yn wir.

“Mae angen buddsoddiad uniongyrchol a strategol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gwmpasu’r flwyddyn neu ddwy nesaf o leiaf.”

Pryder am ddyfodol canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd

Yn ystod cyfnod y pandemig, mae pryderon wedi bod am Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, ble mae dwy theatr a sinemâu.

Wrth orfod cau ei drysau, mae’r Chapter wedi cael ei rhoi “mewn sefyllfa ariannol ansicr iawn”, sydd wedi eu hysgogi i sefydlu cronfa codi arian.

“Ry’n ni’n llwyddiannus tu hwnt, yn yr ystyr nad ydyn ni’n dibynnu ar gyfraniadau,” meddai Elin Wyn, Cadeirydd y ganolfan, wrth gylchgrawn Golwg yn fuan wedi’r cyfnod clo.

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn annog sefydliadau i fod yn fwy hunangynhaliol ac yn fwy entrepreneurial, ac ry’n ni’n cael ein gweld fel esiampl wych o sefydliad sy’n gallu sefyll ar ei draed ei hun – a nawr, mae o anfantais i ni.

“Mae 82% o’n hincwm ni wedi diflannu dros nos.”

Mae’r actor a DJ Gareth Potter hefyd wedi mynegi pryder am ddyfodol y Chapter.

“Mae e’n ganolfan mor bwysig, ac wedi bod mor bwysig, i fi yn tyfu fyny, yn dechrau fy niddordeb i yn y celfyddydau,” meddai.

“Mae yna bryder. Mae pethau yn cau. Ond dw i’n gobeithio y gwnaiff Caerdydd ddim gadael iddyn nhw. Mae yna ddigon o gariad hyd at Chapter yn yr 21ain ganrif i gynnal y lle”.

Dyfodol theatr “yn y fantol”

Theatr arall sydd yn profi trafferthion ariannol yn sgil pandemig y coronafeirws ydi Theatr Sherman yng Nghaerdydd.

Maen nhw bellach wedi sefydlu cronfa ariannol ac yn gofyn am gymorth y cyhoedd.

“Rydym yn ddibynnol ar incwm o werthiant tocynnau, y caffi bar, llogi ystafelloedd a llawer mwy i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud,” meddai datganiad ar wefan Theatr Sherman.

“Mae’r ffynonellau hynny o incwm wedi diflannu’n llwyr, a hynny am gyfnod amhenodol.

“Heb eich cymorth, mae’r gwaith rydym ni’n ei wneud yn y fantol”.