Mae Andrew RT Davies yn dweud bod rhaid i bobol roi’r gorau i daflu sbwriel yng nghanol trefi a dinasoedd, ac ar draethau.
Fe fu’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn ymateb ar ôl i luniau o’r sbwriel mewn sawl lle yng Nghymru gael eu rhannu ar wefannau cymdeithasol.
Ac fe ddaw wrth i fwy o bobol fentro allan ar ôl cyfyngiadau’r coronafeirws ac yn sgil y tywydd braf dros y dyddiau diwethaf.
Fe fu adroddiadau o ymladd a cheir yn parcio ar hap ger sawl traeth, ac mae gollwng sbwriel wedi bod yn broblem fawr hefyd wrth i bobol ddechrau ymgynnull mewn grwpiau mawr – sy’n dal ddim yn rhan o gyfyngiadau’r llywodraeth wrth fynd i’r afael â’r feirws.
Bu’n rhaid i’r heddlu wasgaru torfeydd mawr o bobol ym Mae Caerdydd neithiwr (nos Wener, Mehefin 26), gyda grwpiau mawr o bobol yn yfed alcohol ac yn gollwng sbwriel ar lawr.
“Rydyn ni i gyd wedi cael siom o weld y delweddau o domenni sbwriel, poteli a llawer o bethau eraill ar rai o’n traethau a chanol ein dinasoedd,” meddai Andrew RT Davies.
“All fod yna ddim esgus am y peth.
“Rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb personol am ein gweithredoedd.
“Rhowch eich sbwriel yn y bin, neu os yw’r biniau’n llawn, ewch ag e adref gyda chi.”
Têcawê
Heb fod bwytai a chaffis wedi agor yn llawn eto, dywed Andrew RT Davies fod rhaid darparu mwy o finiau er mwyn ymdopi â sbwriel sy’n deillio o fwydydd têcawê.
“Mae gan leoliadau lle gellir bwyta i mewn y cyfleusterau i ymdopi â gwastraff ar raddfa fawr,” meddai.
“A phan fyddan nhw’n cael y golau gwyrdd hirddisgwyliedig i agor eto, gobeithio y bydd y broblem hon yn dod i ben.
“Mae’n dangos cymaint o dasg anodd a di-ddiolch sydd gan y rhai yn y sectorau gwastraff a lletygarwch, felly gadewch i ni roi mwy o gydnabyddiaeth iddyn nhw yn y dyfodol.”