Mae Micheal Martin, Taoiseach neu brif weinidog newydd Iwerddon, yn dweud mai cael ei benodi i’r swydd yw “un o’r anrhydeddau mwyaf y gall rhywun ei derbyn”.

Arweinydd Fianna Fáil yw Taoiseach rhif 33 Senedd Iwerddon, ar ôl i 93 o aelodau’r Dáil, neu’r senedd, bleidleisio o’i blaid, gyda 63 yn erbyn a thri wedi ymatal.

Yn ei araith gyntaf yn y swydd, fe wnaeth e dalu teyrnged i weithwyr iechyd a’r rhai fu farw yn ystod ymlediad y coronafeirws.

“Erbyn heddiw, mae 2,278 o bobol ar yr ynys hon wedi colli eu bywydau,” meddai.

“Mae miloedd yn rhagor wedi brwydro’n hir er mwyn ymafer.

“Does dim un gymuned nac un rhan o’n gwlad ni sydd wedi dianc heb gael ei niweidio.

“Dros y tri mis a hanner diwethaf, mae cynnydd enfawr wedi’i wneud wrth reoli ymlediad y feirws a thrin y sawl sydd wedi mynd yn sâl.

“Dydy’r frwydr yn erbyn y feirws ddim ar ben.

“Rhaid i ni barhau i gyfyngu’r ymlediad.

“Rhaid i ni fod yn barod i herio unrhyw don newydd, a rhaid i ni symud yn ein blaenau’n gyflym i sicrhau adferiad er lles ein holl bobol.”

Teyrnged i’w deulu

Fe wnaeth e hefyd dalu teyrnged i’w wraig a’u plant, gan ddweud ei fod yn falch o’i wreiddiau dosbarth gweithiol hefyd.

“Yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i ‘nheulu a ‘nghymuned,” meddai.

“Hebddyn nhw, allwn i ddim bod wedi cyflawni unrhyw beth.”

Mae Leo Varadkar, sy’n gadel ei swydd yn arweinydd, yn dweud bod y glymblaid newydd yn cynnig “llywodraeth sefydlog er mwyn gwella ein gwlad a’n byd”.

Ond mae Mary Lou McDonald, arweinydd Sinn Fein, wedi cyhuddo’r ddwy brif blaid, Fianna Fáil a Fine Gael, o’u gwthio nhw o’r ffordd wrth glymbleidio â’r Blaid Werdd fel rhan o “glymblaid gyfleus”.

Ar ôl i Micheal Martin dderbyn sêl bendith yr Arlywydd Michael D Higgins, fe fydd e’n penodi ei weinidogion.