Mae cofgolofn i fasnachwr oedd yn manteisio ar gaethweision ym Mryste wedi cael ei dymchwel yn ystod protestiadau yn y ddinas.

Mae protestiadau Black Lives Matter wedi’u cynnal mewn sawl dinas dros y penwythnos, yn dilyn marwolaeth George Floyd, dyn croenddu, dan law’r heddlu ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau.

Yn sgil ei waith gyda chwmni Affricanaidd oedd yn masnachu aur, arian, ifori a chaethweision, roedd Edward Colston yn gyfrifol am gludo oddeutu 84,000 o ddynion croenddu o arfordir orllewinol y cyfandir.

Mae lle i gredu bod oddeutu 19,000 ohonyn nhw wedi marw yn ystod y daith i’r Caribî a’r Americas.

Câi’r gweithwyr eu gwerthu am bris rhesymol i berchnogion tir er mwyn iddyn nhw weithio ar gnydau tybaco a siwgr, a bydden nhw’n cael eu talu dipyn llai o arian na phobol Brydeinig pe baen nhw’n gwneud y gwaith.

Bryste

Fe wnaeth Edward Colston sefydlu a chefnogi nifer o wasanaethau yn ninas Bryste, lle cafodd ei eni.

Yn eu plith roedd cartrefi i bobl dlawd, ysbyty ac ysgol fonedd.

Rhoddodd e’n hael i nifer o ysgolion ac eglwysi’r ddinas hefyd.

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Ceidwadol yn y ddinas yn 1710, gan wasanaethau am un cyfnod seneddol.

Cafodd y gofeb iddo ym Mryste ei chodi yn 1895.

Ond yn ystod y degawdau diwethaf, fe fu cryn wrthwynebiad i’w ran yn hanes y ddinas, ac fe fu cryn alw ar i’r awdurdodau lleol ailenwi Neuadd Colston, neuadd gyngherddau’r ddinas.