Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ddamwain car ddifrifol yng Nghaerdydd.

Bu gwrthdrawiad am tua 11:10  nos Iau (Gorffennaf 30) ar yr A4161 yn Nhreganna, Caerdydd.

Cafodd y ffordd ei chau am gryn dipyn o amser yn dilyn y ddamwain.

Dau gerbyd wnaeth wrthddaro – Tacsi Volkswagen Caddy du a gwyn a char Volvo du.

Cafodd pump o bobol eu cludo i Ysbyty Prifysgol Cymru, gydag un ddynes yn dioddef o anafiadau difrifol ac yn dal i fod mewn cyflwr difrifol.

Dywed swyddogion yr heddlu eu bod yn ddiolchgar i aelodau’r cyhoedd wnaeth eu cynorthwyo.

“Hoffwn siarad gydag unrhyw un wnaeth weld y ddamwain neu weld y cerbydau cyn y gwrthdrawiad neu unrhyw un yn yr ardal sydd â lluniau dash cam,” meddai Heddlu’r De mewn datganiad. Msen nhw am i dystion ffonio 101.