Mae’n “siomedig iawn i bawb” bod gwesty “eiconig” yn Aberystwyth yn cau, yn ôl cynghorydd lleol.
Ers agor yn 2007 mae Gwesty Cymru wedi ennill amryw o wobrau, ond dyw’r busnes ddim wedi agor ers dechrau’r cyfnod clo, a’r wythnos hon cyhoeddwyd y byddai’n cau yn barhaol.
Mae Alun Williams yn cynrychioli ward Aberystwyth Bronglais ar Gyngor Sir Ceredigion, ac mae’n dweud bod y newyddion yn siom i’r gymuned gyfan.
“Gwesty bach yw e’, ond mae’n eiconig iawn hefyd,” meddai. “Mae ganddo bwysigrwydd ehangach na’i faint. Mae’n siomedig iawn i bawb.
“Ond wrth gwrs mae’r cyfnod sydd ohoni yn hynod o heriol. A dw i’n siŵr nad dyma fydd y siomedigaeth ddiwethaf.”
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i gau’r gwesty dywedodd y perchnogion, Huw a Beth Roberts, bod “covid-19 wedi cael effaith andwyol” ar y busnes.
“Diwylliant caffi Ewropeaidd”
Ar y cyfan mae’r Cynghorydd Alun Williams yn eitha’ optimistaidd am obeithion busnesau Aberystwyth yn ystod yr argyfwng.
Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod llawer o strydoedd wedi’u cau i geir sy’n golygu bod busnesau yn medru rhoi byrddau tu allan i weini cwsmeriaid – gan gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.
“Stori bositif iawn” yw hyn, meddai, ac mae’n croesawu’r “diwylliant caffi Ewropeaidd go-iawn” sydd wedi ei danio yn Aberystwyth.
Mae Ffordd Glan y Môr – ar hyd y promenâd lle mae Gwesty Cymru – yn parhau ar agor, ac mae’r cynghorydd yn awgrymu na ddylid ei chau.
“Yn gyffredinol, tra bod llawer yn dioddef – fel Gwesty Cymru yn amlwg – mae masnachwyr lleol wedi ymateb yn gadarn i’r argyfwng.
“Mae masnachwyr bwyd … wedi ymateb yn dda, ac maen nhw wedi bod yn darparu gwasanaeth da iawn i bobol leol.”