Mae dogfennau llys newydd wedi datgelu achos sifil rhwng cyn-bartner Jeffrey Epstein, Ghislaine Maxwell, a dynes sy’n cyhuddo’r ddau o’i cham-drin yn rhywiol.

Daw’r dogfennau o achos cyfreithiol difenwad sydd bellach wedi ei setlo, gan un o ddioddefwyr honedig Jeffrey Epstein, Virginia Roberts Giuffre.

Yn yr achos cyfreithiol, honnodd Virginia Roberts Giuffre bod Ghislaine Maxwell wedi ei recriwtio yn 2000 i wasanaethu Jeffrey Epstein yn rhywiol.

Honnir bod y cwpl wedi ei gorfodi i gael rhyw gyda nifer o ddynion cyfoethog a nodedig, gan gynnwys y Tywysog Andrew, gwleidyddion Americanaidd, gwyddonwyr enwog a dylunwyr ffasiwn.

Mae’r Tywysog Andrew yn gwadu iddo gael rhyw gyda Virginia Roberts Giuffre.

Ac mae Ghislaine Maxwell, a’r holl ddynion sydd wedi cael eu cyhuddo, wedi gwadu’r honiadau ers blynyddoedd.

E-byst Ghislaine Maxwell a Jeffrey Epstein

Ymysg y dogfennau newydd sydd wedi cael eu rhyddhau, mae cyfres o e-byst rhwng Ghislaine Maxwell a Jeffrey Epstein o 2015, pan roedd honiadau Virginia Roberts Giuffre yn cael sylw yn y cyfryngau.

Mae’n debyg bod un o’r e-byst yn ddrafft o ddatganiad yn gosod pwyntiau trafod i Ghislaine Maxwell eu defnyddio er mwyn amddiffyn ei hun.

Dywed yn yr e-bost ei bod hi’n cael ei thargedu gan “honiadau ffals ac ymddygiad sarhaus dw i’n eu gwadu.”

Wrth ymateb i e-bost gan Ghislaine Maxwell, ysgrifennodd Jeffrey Epstein: “Nid wyt wedi gwneud dim o’i le a byddwn yn dy annog i ddechrau ymddwyn felly.”

Bu farw Jeffrey Epstein wrth disgwyl am ei achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu rhyw yr haf diwethaf.

Cafodd Ghislaine Maxwell ei harestio yn ddiweddar ar gyhuddiadau o recriwtio o leiaf tai merch, gan gynnwys merch 14 oed, er mwyn i Jeffrey Epstein allu eu cam-drin yn rhywiol yn y 1990au.

Dywed erlynwyr ei bod hi wedi cymryd rhan yn y cam-drin rhywiol.

Mae Ghislaine Maxwell mewn carchar yn disgwyl achos cyfreithiol yn Efrog Newydd.