Mae Ghislaine Maxwell – sydd wedi cael ei chyhuddo gan sawl person o gaffael merched dan oed ar gyfer Jeffrey Epstein – wedi cael ei harestio, yn ôl yr FBI.
Cafodd cyhoeddiad ei wneud ddydd Iau (Gorffennaf 2) oedd yn dweud bod Ghislaine Maxwell wedi “helpu Epstein i recriwtio, paratoi at bwrpas rhyw, ac, yn y bôn, gam-drin” merched mor ifanc â 14 oed.
Fe’i cyhuddir hefyd o gymryd rhan mewn cam-drin rhywiol.
Roedd Ghislaine Maxwell wedi ei chyhuddo gan nifer o ferched o’u recriwtio i roi massage iddo cyn cael eu rhoi dan bwysau i gael rhyw.
Mae Ghislaine Maxwell wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn gan alw’r honiadau yn “rwtsh llwyr”.
Ymysg y cyhuddiadau gafodd eu gwneud gan un o ddioddefwyr Jeffrey Epstein, Virginia Roberts Giuffre, roedd bod Ghislaine Maxwell wedi trefnu iddi gael rhyw gyda Dug Efrog yn ei chartref yn Llundain.
Mae’r Tywysog Andrew wedi gwadu’r stori mewn cyfweliad lletchwith â’r BBC, ond mae hefyd bellach wedi’i gyhuddo o fethu â chydweithredu â’r FBI.
“Y gweithiwr yn y safle uchaf” ym ‘musnes masnachu rhyw’ Jeffrey Epstein
Caiff Ghislaine Maxwell ei disgrifio gan un arall o’r dioddefwyr, Sarah Ransome, fel “y gweithiwr yn y safle uchaf” ym ‘musnes masnachu rhyw’ Jeffrey Epstein.
Yn ôl y cyhuddwyr, roedd hi’n gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi recriwtiaid, datblygu cynlluniau recriwtio, a helpu i guddio’r cwbl rhag yr awdurdodau
Dywedir bod Ghislaine Maxwell wedi “denu” merched ifanc, a hynny mor gynnar â 1994.
Honnir hefyd iddi ddweud celwydd pan gafodd ei chwestiynu am ei gweithredoedd.
Perthynas â Jeremy Epstein
Roedd Ghislaine Maxwell mewn perthynas â Jeremy Epstein pan ddigwyddodd nifer o’r troseddau ac roedd o hefyd yn ei thalu i reoli ei wahanol eiddo.
Ymchwiliwyd i weithredoedd Jeffrey Epstein yn Florida yn wreiddiol a phlediodd yn euog i gyhuddiadau, gan daro bargen i osgoi dedfryd o garchar am amser hir.
Cafodd ei ryddhau ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach.
Fel rhan o’r fargen, llofnododd erlynydd ffederal gytundeb cyfrinachol oedd yn atal y llywodraeth ffederal rhag dedfrydu “unrhyw un o gyd-gynllwynwyr Jeffrey Epstein”.
Mae erlynwyr ffederal yn Efrog Newydd yn mynnu nad ydynt wedi eu rhwymo gan y cytundeb hwnnw.