Mae’r miliwnydd Jeffrey Epstein wedi ei ganfod yn farw mewn carchar yn Efrog Newydd,

Mae’n ymddangos fod yr ariannwr 66 oed wedi lladd ei hun tra’n disgwyl achos lle’r oedd yn wynebu cyhuddiadau o fasnachu rhyw.

Fe’i canfuwyd yn farw yn ei gell mewn carchar yn Manhattan y bore yma.

Putain

Roedd wedi pledio’n ddi-euog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn ac yn wynebu hyd at 45 mlynedd yn y carchar os y bydde rheithgor wedi ei ganfod yn euog.

Arestiwyd Epstein y mis diwethaf. Roedd wedi wynebu achos tebyg yn 2008 ond y tro hwnnw fe gafwyd dêl a ganiataodd iddo bledio’n euog i annog plentyn ifanc i fod yn butain yn Florida ac osgoi cyhuddiadau mwy difrifol.

Dechreuodd ymchwilwyr edrych ‘mewn i’r achos wedi straeon gan newyddiadurwyr y Miami Herald greu ymateb chwyrn oherwydd y bargeinio dros ei ble.

Y mis diwethaf fe ymddiswyddodd Ysgrifennydd Llafur yr UD ar ôl iddo gael ei feirniadu am oruchwylio’r ddêl pan oedd yn Atwrnai yr UD yn Miami.