Mae Boris Johnson wedi annog y cyhoedd i beidio â’i “gorwneud hi” pan fo cyfyngiadau’n cael eu llacio yn Lloegr ddydd Sadwrn.
Mae wedi galw ar bobl i fod yn ofalus wrth fwynhau eu hunain, yn sgil pryderon y gallai peidio ymbellhau’n gymdeithasol arwain at gynnydd mewn achosion Covid-19.
Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth gynhadledd i’r wasg yn San Steffan: “Mae [Mr Johnson] wedi dweud ei fod am weld pobl yn gallu mynd allan a mwynhau eu hunain, ond mae hefyd yn glir iawn bod angen i bawb fod yn ofalus, aros yn wyliadwrus, a dilyn y canllawiau.
Pan ofynnwyd a fyddai Mr Johnson ymweld â thafarn neu fwyty ddydd Sadwrn, dywedodd y llefarydd: “Mae wedi sôn am ei frwdfrydedd am dorri gwallt a peint […] ond dydw I ddim yn gwybod yn union beth mae’n ei wneud ddydd Sadwrn eto.”
Daw hyn ar ôl i’r Trysorlys orfod dileu trydariad o’i gyfrif swyddogol nos Fercher yn annog pobl i “fachu diod a chodi gwydraid, mae tafarndai yn ailagor eu drysau o 4 Gorffennaf ymlaen”.
Cyhuddwyd yr adran o anfon “y trydariad mwyaf tôn-fyddar erioed” gan y newyddiadurwr Piers Morgan, a ddywedodd: “65 mil o bobl wedi marw […] miliynau yn wynebu diweithdra … ac mae’r Trysorlys am i ni i gyd fynd allan ar y piss i ddathlu.”