Nifer o fenywod yn galw arno i roi tystiolaeth mewn achosion cam-drin rhywiol

Mae’r pwysau’n cynyddu ar y Tywysog Andrew gyda nifer o alwadau newydd ar iddo wynebu llysoedd barn am ei ran yng ngweithgareddau’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Mae dwy gyfreithwraig wedi dweud y byddan nhw’n galw arno i roi tystiolaeth yn achosion chwech o fenywod gwahanol.

Mae pump yn dweud ei fod yno pan gawson nhw’u gorfodi i roi ‘massage’ i Jeffrey Epstein ac un yn dweud iddi fod yng nghwmni’r Tywysog a merch sy’n ei gyhuddo o gael rhyw anghyfreithlon gyda hi.

Rhaglenni teledu

Fe ddaeth y datgeliadau diweddara’ ar raglenni teledu, ychydig ddyddiau ar ôl i’r Tywysog Andrew ddweud ei fod yn rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau cyhoeddus oherwydd yr honiadau.

Mae wedi gwadu iddo gael rhyw gyda merch o’r enw Virginia Roberts yn 2001, pan oedd hi’n 17 oed ac, yn ôl ei honiadau hi, wedi cael ei masnachu gan Jeffrey Epstein a’i ffrindiau.

Ond y bore yma, fe ddywedodd tad Virginia Roberts (Guiffre) wrth raglen frecwast ITV ei fod yn credu ei ferch.

Honiadau gan chwech o ferched

Ar yr un rhaglen, fe ddywedodd cyfreithwraig fod ganddi hi dyst sy’n cofio’r Tywysog a’r ferch ifanc yn dawnsio gyda’i gilydd mewn clwb nos – honiad sydd unwaith eto’n cael ei wadu gan y Tywysog.

Fe alwodd y gyfreithwraig, Lisa Bloom, ar y Tywysog Andrew i gadw at ei addewid i helpu ymchwiliadau i’r achosion.

Neithiwr, ar raglen y BBC, Panorama, y daeth yr wybodaeth am y pum menyw sy’n cyhuddo’r Tywysog o fod yno pan oedden nhw gyda Jeffrey Epstein – hynny hefyd wedi ei wadu gan y Tywysog Andrew ei hun.

Y Palas yn gwadu

Mae Palas Buckingham wedi ei gefnogi unwaith eto: “Mae’n cael ei wadu’n llwyr bod Dug Caerefrog {teitl arall y Tywysog] wedi cael unrhyw fath o gyswllt rhywiol neu berthynas gyda Virginia Roberts,” meddai llefarydd.

Fe gafodd yr Arlywydd Trump ei holi am y mater hefyd, wrth lanio yng ngwledydd Prydain o’r Unol Daleithiau. “Dydw i ddim yn nabod y Tywysog Andrew,” meddai. “Ond mae’n stori galed. Stori galed iawn.”