Mae Elidir Jones wedi ennill gwobr o £1,000 am ei nofel ffantasi i bobol ifanc yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.
Yn wreiddiol o Fangor, mae’r awdur a sgriptiwr yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn.
Mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw ac wedi gweithio ar raglenni teledu megis Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru a Cynefin.
Fe gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, yn 2015 a’r llynedd fe gyhoeddodd Yr Horwth, sef nofel ffantasi i bobl ifanc am frwydr yn erbyn bwystfil rheibus.
A’r nofel honno gafodd ei gwobrwyo yn y categori Llyfr Cymraeg Gorau i Blant a Phobl Ifanc yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020.
Y ddau arall yn y ras am y wobr oedd Genod Gwych a Merched Mentrus gan Medi Jones-Jackson a Llyfr Adar Mawr y Plant gan Onwy Gower.
Gwobr ffuglen i awdur adnabyddus
Babel gan Ifan Morgan Jones sydd wedi cipio’r tlws a’r £1,000 am y nofel ffuglen orau yn yr iaith Gymraeg yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni.
Dyma awdur ddaeth i’r amlwg yn 2008 pan enillodd ei nofel gyntaf, Igam Ogam, Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae hefyd yn adnabyddus am gynnal gwefan newyddion nation.cymru, a darlithio am Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor.
Y ddau arall yn y ras am y wobr oedd Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds ac Iaith y Nefoedd gan Llwyd Owen.
Y beirniaid
Panel annibynnol sy’n dyfarnu’r holl wobrau, a’r beirniaid eleni oedd:
Casi Wyn – cantores a chyfansoddwraig;
Betsan Powys – newyddiadurwraig sy’n cyflwyno Pawb a’i Farn;
Siôn Tomos Owen – cartwnydd, awdur a chyflwynydd rhaglenni teledu;
Emyr Lewis – Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wrth drafod y gystadleuaeth ar ran y panel beirniadu, dywedodd Siôn Tomos Owen:
“Braf yw nodi ein bod ni fel beirniaid wedi’n plesio’n fawr gyda phob un o’r cyfrolau ar y rhestr fer eleni. Mae yma ymgeiswyr cryf, sy’n cynnig gwledd i bob darllenydd trwy’i gweithiau amrywiol. Llongyfarchiadau i bob un o’r pedwar enillwyd a’u cyhoeddwyr.”
Gwobrau yn “hanfodol bwysig”
Y corff Llenyddiaeth Cymru sy’n trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn, ac maen nhw yn “hanfodol bwysig” meddai’r Prif Weithredwr.
“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru,” meddai Lleucu Siencyn. “Rydym yn falch iawn i ddathlu llwyddiannau llenyddol ein hawduron hynod dalentog, ac mae’r Wobr hon yn fodd o wneud hyn yn flynyddol. Braf iawn oedd cynnwys categori newydd sbon eleni, gan gydnabod bri llenyddiaeth plant a phobl ifanc ochr yn ochr â llenyddiaeth ar gyfer oedolion.”
Bydd enillwyr prif wobr Llyfr y Flwyddyn a gwobr Barn y Bobl golwg360 yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, Awst 1, rhwng 12.30 ac un y p’nawn ar Radio Cymru.
Neithiwr (30 Gorffennaf), cyhoeddwyd enillwyr y ddwy gategori gyntaf yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, sef y Categorïau Barddoniaeth a Ffeithiol-Greadigol Cymraeg.