Cyn-athro o Landudoch, Sir Benfro, sydd wedi ennill Stôl Farddoniaeth y Steddfod AmGen.

Roedd Terwyn Tomos yn un o 34 wnaeth lunio cerdd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun ‘Ymlaen’.

Mae ei gywydd buddugol, dan y ffugenw ‘Pererin’, yn trafod ei filltir-sgwar a’i gymuned yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi’r hyn sydd o dan ei drwyn.

Mae’n fardd a ddechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau 15 mlynedd yn ôl ac wedi ennill 23 o gadeiriau, gan gynnwys Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid. Mae o hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa yn 2016 a 2018.

Yr Archdderwydd a’r Prifardd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood – Prif Lenor a Phrifardd – oedd yn beirniadu.

Dywedodd Myrddin ap Dafydd:

“Dyfnder y filltir sgwâr yw gweledigaeth y gerdd fuddugol gan Pererin. Mae’n mynegi canfyddiad llawer mewn awdl fer. Mae rhyddid ar lwybrau’r cwm; mae heddiw’n ymestyniad o orffennol hardd; mae pobl yn gymuned. Mae’n lleol a chenedlaethol ar yr un pryd ac yn deilwng o’r Stôl Farddoniaeth.”