Yn y cyntaf o gyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heno (nos Iau 30 Gorffennaf) enillwyr y ddwy gategori gyntaf yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, sef y Categorïau Barddoniaeth a Ffeithiol-Greadigol Cymraeg.

Y Wobr Farddoniaeth

Enillydd y Wobr Farddoniaeth eleni yw Hwn ydy’r llais, tybad? gan Caryl Bryn (Cyhoeddiadau’r Stamp).

Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Borth Amlwch yn Môn, ond y mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Bu iddi gyhoeddi’r gyfrol dan faner Cyhoeddiadau’r Stamp yn 2019.

Bu iddi ymgymryd â Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018 a derbyn Ysgoloriaeth Gerallt yn 2019. Yn yr un flwyddyn, daeth yn drydydd am Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro. Mae’n gyfrannydd cyson i gylchgronnau Y Stamp, Barddas a Barn, ac yn mwynhau cymdeithasu a threulio amser gyda’i chath, Grês Elin.

Y Wobr Ffeithiol Greadigol

Enillydd y Y Wobr Ffeithiol-Greadigol yw Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones gan Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)

Mae Alan Llwyd yn gofiannydd profiadol ac ymysg ei lyfrau diweddar mae wedi ysgrifennu cofiannau dadlennol i rai o’n beirdd a’n llenorion pwysicaf.

Eleni, mae hi’n 70 o flynyddoedd ers marwolaeth y bardd, y llenor a’r ysgolhaig, T. Gwynn Jones. Dyma gyfrol sy’n gofiant cynhwysfawr i’r Prifardd hwnnw wrth i’r awdur fynd o dan groen y gŵr hynod a chymhleth hwn.

Caiff enillwyr gweddill y gwobrau Cymraeg eu cyhoeddi mewn darllediadau ar BBC Radio Cymru fel rhan o’r Ŵyl AmGen o heno tan ddydd Sul 2 Awst. Cyhoeddir yr enillwyr Saesneg ar raglen BBC Radio Wales Arts Show nos Wener 31 Gorffennaf.