Mae Llywodraeth yr Alban wedi addo ymladd yn erbyn cynlluniau San Steffan gan eu galw’n “gipiad grym hollol amlwg”.
Gwnaeth Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban, Mike Russell, ddatganiad i Holyrood ddydd Iau (30 Gorffennaf), yn addo y byddai ei lywodraeth yn gwrthwynebu cynigion Llywodraeth y DU i sefydlu marchnad fewnol newydd rhwng y pedair gwlad ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit.
Beirniadodd y Torïaid “rethreg hysterig a chamarweiniol” Mr Russell gan ddweud bod creu marchnad fewnol yn angenrheidiol er mwyn galluogi cwmnïau yn yr Alban i wneud busnes mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Pwerau
Ond dywedodd Ysgrifennydd y Cyfansoddiad yr Alban: “Gall pob un pŵer sydd gan Senedd yr Alban gael ei danseilio a’i ddileu gan y cynigion hyn. Bob un.”
Gallai pwerau dros labelu bwyd, gweithgynhyrchu a hylendid bwyd, lles anifeiliaid, ailgylchu a materion amgylcheddol i gyd gael eu heffeithio, meddai.
Dadleuodd Mr Russell mai effaith y cynigion ym Mil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU fyddai mai San Steffan-ac nid Holyrood fyddai’n pennu safonau’r nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir yn yr Alban.
‘Cymryd rheolaeth yn ôl’
Dywedodd: “Yr hyn y mae Llywodraeth y DU ei eisiau yw nid masnach esmwyth, ond cymryd rheolaeth yn ôl – ac nid dim ond wrth yr Undeb Ewropeaidd, ond wrth bobl yr Alban a Chymru a Gogledd Iwerddon.
“Ac yn sicr nid yw [Llywodraeth y Deyrnas Unedig] am i unrhyw beth sefyll yn ei ffordd wrth iddi fynd ati’n fwriadol i ddatgymalu’r system safonol o reoleiddio ac amddiffyn rydym yn ei hetifeddu o’n blynyddoedd yn yr Undeb Ewropeaidd.”
Honnodd nad oes “unrhyw ymrwymiad” yn y cynigion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig geisio cydsyniad y seneddau datganoledig ar gyfer y newidiadau.
Ond mynnodd Mr Russell fod angen cydsyniad datganedig aelodau Senedd yr Alban ar y ddeddfwriaeth, gan ychwanegu:
“Bydd Llywodraeth yr Alban yn argymell yn y modd cryfaf posibl nad yw’r Senedd yn rhoi’r cydsyniad hwnnw.”
Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gydweithredu ond ni fydd yn cael ei bwlio.
“Mae dewisiadau eraill yn lle’r cynigion annoeth hyn, gan gynnwys mynd â rhaglen y fframweithiau gwirfoddol cyffredin i’w chasgliad disgwyliedig.”
“Nid yw’n rhy hwyr”
Dywedodd wrth Senedd yr Alban: “Nid yw’n rhy hwyr i’r Deyrnas Unedig droi’n ôl o’r llwybr hwn.”
Wrth ymateb, dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Alban, Iain Stewart: “Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd camau i amddiffyn swyddi, busnesau a phrynwyr ym mhob rhan o’r wlad.
“Mae marchnad fewnol y DU yn hanfodol ar gyfer busnesau yn yr Alban a swyddi yn yr Alban – mae 60% o fasnach yr Alban gyda gweddill y Deyrnas Unedig , sy’n werth mwy na £50 biliwn i’r Alban. Rhaid inni warchod hynny.”
Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn glir na fydd yn llofnodi cytundeb masnach a fydd yn peryglu ein safonau uchel o ran diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid a diogelwch bwyd.
“Mae ein cynigion yn parchu ac yn cryfhau datganoli, gyda ugeiniau o bwerau yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd, gan fynd yn syth i Holyrood.”