Mae ffigyrau newydd mewn cysylltiad â’r cyllid sydd wedi cael ei ddarparu i’r llywodraethau datganoledig dros y bum mlynedd ariannol ddiwethaf yn dangos “gwerth yr Undeb i Gymru”, meddai Llywodraeth San Steffan.
Mae Adroddiad Tryloywder y Grant Bloc yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £2.9bn o gyllid newydd drwy Fformiwla Barnett ers yr adroddiad blaenorol yn Rhagfyr 2018.
Cafodd £1.9bn o’r cyllid ychwanegol ei ddarparu er mwyn mynd i’r afael â phandemig y coronaferiws, yn ôl yr adroddiad.
Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru’n derbyn £230 miliwn yn 2020-21 er mwyn cynnal taliadau uniongyrchol i ffermwyr.
Bydd cyllid 2020-21 hefyd yn cynyddu meddai’r adroddiad, yn dilyn addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wythnos diwethaf y bydd y llywodraethau datganoledig yn derbyn cyllid pellach i ymateb i’r coronaferiws.
“Lefelau digynsail o gyllid ychwanegol”
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi Cymru yn ystod argyfwng y coronaferiws drwy lefelau digynsail o gyllid ychwanegol,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart.
“Roedd hynny ar ben Cynllun Cadw Swyddi a Chynllun Cefnogaeth Incwm Hunan Gyflogedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi gwarchod incwm 480,000 o bobol ar draws Cymru.
“Byddwn yn parhau i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, yr economi a ffyniant yn y dyfodol wrth i Gymru adfer o’r pandemig hwn.”
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Steve Barclay:
“Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais gyllid digynsail i roi sicrwydd i’r gweinyddiaethau datganoledig gynllunio ymlaen llaw a darparu eu cynlluniau cymorth eu hunain i fynd i’r afael â coronafeirws.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos bod y warant hon yn adeiladu ar y cymorth ariannol yr ydym eisoes wedi’i ddarparu, gan ddangos cryfder a gwerth yr Undeb.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.