Gyda’r newyddion mai Lloegr oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau ychwanegol ar draws Ewrop yn hanner cyntaf 2020, dyma gymharu cyfraddau marwolaethau brig dinasoedd mawr y Deyrnas Unedig ac Ewrop, gan gynnwys Caerdydd.

Fe’u mynegir fel cynnydd canrannol o gymharu â’r cyfartaledd rhwng 2015 a 2019, gydag wythnosau’r cyfraddau brig hynny:

Birmingham – 249.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Llundain – 226.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Manceinion – 198.4% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Caerdydd – 140.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Glasgow – 122.1% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 24

Caeredin – 98% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 10

Belfast – 74.4% yn yr wythnos yn diweddu Mai 1

O blith y 25 o ddinasoedd mawr Ewropeaidd a ddewiswyd, dyma’r 10 sydd â’r cyfraddau brig uchaf o farwolaethau ychwanegol (ac wythnosau’r cyfraddau brig hynny):

Madrid, Sbaen – 432.7% yn yr wythnos yn diweddu Mawrth 27

Barcelona, Sbaen – 285.9% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 3

Birmingham, Lloegr – 249.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Llundain, Lloegr – 226.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Brwsel, Gwlad Belg – 201% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 10

Manceinion, Lloegr – 198.4% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

Paris, Ffrainc – 151.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 3

Stockholm, Sweden – 149.9% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 10

Milan, yr Eidal – 149% yn yr wythnos yn diweddu Mawrth 27

Caerdydd, Cymru – 140.7% yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 17

O’r 25 o ddinasoedd mawr Ewropeaidd a ddewiswyd, dyma’r 10 sydd â’r cyfraddau marwolaethau ychwanegol cronnol uchaf yn ystod yr wythnos yn diweddu Mehefin 12:

Madrid: 26.26%

Barcelona: 17.04%

Birmingham: 15.83%

Llundain: 14.92%

Amsterdam: 14.58%

Manceinion: 13.41%

Brwsel: 11.88%

Stockholm: 11.45%

Caeredin: 9.13%

Glasgow: 8.57%