Lloegr oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau ychwanegol ar draws Ewrop yn hanner cyntaf 2020, yn ôl ffigurau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd Lloegr wedi gweld y cyfnod hiraf o farwolaethau ychwanegol yn ogystal â’r gyfradd uchaf o farwolaethau, yn dilyn cymhariaeth o 23 o wledydd Ewropeaidd.

Dyma’r tro cyntaf i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gymharu cyfraddau marwolaethau gwahanol wledydd i fesur effaith pandemig y coronafeirws.

Erbyn diwedd wythnos Mai 29, roedd cyfradd marwolaethau Lloegr yn 7.55% – gan olygu ei bod 7.55% yn uwch na’r gyfradd marwolaethau cyffredinol rhwng 2015 a 2019.

Sbaen oedd a’r ail gyfradd fwyaf gyda 6.65%, yr Alban (5.11%), Gwlad Belg (3.89%) a Chymru yn bumed (2.78%).

“Cynnydd eithriadol”

Roedd gan Loegr y gyfradd uchaf o farwolaethau ychwanegol bythefnos yn ddiweddarach, erbyn diwedd wythnos Mehefin 12.

Rhwng Chwefror 14 a Mehefin 12 Lloegr oedd a’r nifer fwyaf o farwolaethau ychwanegol, ar ôl Sbaen.

Dywedodd Edward Morgan o’r ONS bod “cynnydd eithriadol” wedi bod mewn cyfraddau marwolaethau yn hanner cyntaf 2020 ar draws gorllewin Ewrop, o’i gymharu â’r pum mlynedd ddiwethaf.

“Angen dysgu gwersi”

Yn ôl llefarydd iechyd y Blaid Lafur Jonathan Ashworth “allwn ni ddim celu’r ffaith rhagor nad oedd y Llywodraeth wedi delio gyda’r argyfwng yma yn dda ac mae angen dysgu gwersi ar frys o’r camgymeriadau.

“Mae’n rhaid i Boris Johnson gymryd cyfrifoldeb ac esbonio pam ein bod ni wedi paratoi mor wael. Wrth i ni weld cynnydd eto mewn rhannau eraill o’r byd, rhaid i weinidogion amlinellu’r glir pa gamau maen nhw’n cymryd i ddiogelu pobl yn well ac arbed bywydau yn y misoedd i ddod.”