Mae’r rheiny sydd yn dangos symptomau Covid-19 bellach yn cael eu cynghori i hunan-ynysu am ddeg diwrnod yn lle saith.
Daw’r cyhoeddiad mewn datganiad ar y cyd gan swyddogion meddygol gwledydd y Deyrnas Unedig – gan gynnwys Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Hyd yma mae’r cyhoedd wedi’u cynghori i aros adref am saith diwrnod os ydyn nhw’n dangos symptomau, sy’n cynnwys tymheredd uchel, a pheswch cyson newydd.
Yn y datganiad ar y cyd mae’r swyddogion meddygol yn nodi bod lle i gredu bod pobol yn dal i fod yn heintus saith i naw diwrnod ar ôl i’r salwch ddechrau.
“Rydym wedi ystyried y ffordd orau o … leihau’r risg i’r boblogaeth yn gyffredinol,” meddai’r datganiad.
“Ac rydym o’r farn … erbyn hyn [mai’r] cydbwysedd risg cywir yw i ymestyn y cyfnod hunan-ynysu o 7 i 10 diwrnod i’r rhai yn y gymuned sydd â symptomau neu ganlyniad prawf cadarnhaol.”
Daw’r newid wrth i bryderon gynyddu am ail don o achosion ar draws Ewrop. Mae’r rheol newydd yn cyd-fynd â chyngor Sefydliad Iechyd y Byd.
Y drefn
I’r rheiny sydd yn dangos symptomau – neu sydd wedi derbyn prawf positif – rhaid hunan-ynysu am o leiaf 10 diwrnod (rhaid hunan-ynysu am ragor o ddiwrnodau os nad ydych wedi gwella).
Mae pawb sydd yn byw ag unigolyn sy’n dangos symptomau (neu â phrawf positif) yn gorfod aros adref am gyfnod o 14 diwrnod – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n sâl.
Mae hefyd rhaid hunan-ynysu am bythefnos os ydych wedi dychwelyd o wlad tramor sydd ddim ar y rhestr swyddogol o eithriadau.