Mae’r Bathdy Brenhinol wedi lansio ceiniog £5 er mwyn nodi 150 mlynedd ers sefydliad y Groes Goch Brydeinig.

Mae’r elusen yn rhoi cymorth dyngarol i bobol ledled y byd, ac mae’r darn arian yn dathlu hynny â’r ysgrif: “per humanitatem ad pacem” (“trwy ddynoliaeth at heddwch”).

Bydd cyfanswm o 150 o’r darnau arian yn cael eu rhoi i wirfoddolwyr a staff y Groes Goch, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng coronafeirws.

Yn eu plith mae Sandra Fisher o Gasnewydd sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r Groes Goch ers 27 mlynedd ac wedi bod yn cyfrannu at ymdrechion yr elusen yn ystod cyfnod y coronafeirws tra’n ynysu yn ei chartref.

Dywedodd ei bod yn “anrhydedd” cael ei hadnabod yn y ffordd yma gan ychwanegu “dw i wastad wedi trio gwneud popeth alla’i i helpu pobl.”

Mae darnau arian y bathdy yn cael eu cynhyrchu yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.

“Caredigrwydd”

Mae Prif Weithredwr y Groes Goch Brydeinig, Mike Adamson, wedi nodi’r pen-blwydd 150 mlynedd trwy roi clod i waith yr elusen.

“O’r gorffennol hyd at heddiw mae ein gwaith yn ddibynnol ar ymrwymiad ein gwirfoddolwyr a staff, a haelioni ein cefnogwyr,” meddai.

“Pŵer eu caredigrwydd hwythau fydd yn sicrhau ein bod ni yna i’r bobol sydd ein hangen ni fwyaf am flynyddoedd i ddod.”

Cafodd y Groes Goch Brydeinig ei sefydlu yn 1870 yn sgil lansiad y Groes Goch ryngwladol.