Mae nifer y ceir sydd wedi cael eu hadeiladu yn y Deyrnas Unedig dros y chwe mis diwethaf wedi gostwng i’w lefel isaf ers 1954, yn ôl ffigurau newydd.

Cafodd cyfanswm o 381,357 o geir eu hadeiladu yn y chwe mis hyd at fis Mehefin, gostyngiad o 42% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, meddai Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT).

Mae’r coronafeirws wedi arwain at nifer o safleoedd gwerthu ceir yn cau a diswyddiadau yn y diwydiant, ac mae’r SMMT wedi rhybuddio bod rhagor o swyddi yn y fantol yn sgil tariffau Brexit.

‘Heriau’

Mae’r corff yn amcangyfrif bod 11,349 o swyddi wedi cael eu colli yn y chwe mis diwethaf mewn safleoedd cynhyrchu ceir a chwmnïau sy’n darparu cydrannau ceir a gwasanaethau.

Dywedodd yr SMMT bod angen cynnal trafodaethau brys i sicrhau cytundeb masnach, gan ychwanegu bod llawer o gwmnïau ceir wedi cwyno am ddiffyg eglurder wrth baratoi ar gyfer y cyfnod trosglwyddo.

Roedd y farchnad cynhyrchu ceir 63% yn is ym mis Ionawr yn y Deyrnas Unedig, tra bod allforion wedi giostwng 45%.

Yn ôl prif weithredwr SMMT Mike Hawes bod y diwydiant ceir yn wynebu “nifer o heriau yn sgil y pandemig, amodau heriol yn y farchnad ac ansefydlogrwydd oherwydd Brexit.”