Mae’r cyhoedd wedi’u gwahodd i rannu eu barn ynghylch gwaredu plastig un tro (single use) yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gwaredu’r fath blastig, ac mae ymgynghoriad ar eu cynigion wedi ei lansio heddiw.
Pe bai’r cynigion yn cael eu rhoi ar waith byddai llu o eitemau plastig yn cael eu gwahardd gan gynnwys gwellt plastig, ffyn cotwm, a pholystyren sy’n dal bwyd a diod.
“Mae ein cymunedau wedi arwain y ffordd o ran lleihau gwastraff plastig,” meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.
“Gobeithio y bydd pobl Cymru yn awr yn manteisio ar y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn a’n helpu i symud ymlaen ar ein taith tuag at Gymru ddi-sbwriel.”
“Rhoi’r gorau i’r tin-droi”
Mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi’r cam ond wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gymryd cyn hired i lansio ymgynghoriad.
“O’r diwedd mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi’r gorau i’r tin-droi ac maen nhw’n bwrw ati i wahardd plastig un tro,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd y blaid ar yr amgylchedd.
“Ond unwaith eto mae Cymru y tu ôl i’r Alban a Lloegr wrth gyflwyno’r newidiadau pwysig yma,” meddai wedyn. “Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i gyflwyno cynllun dychwelyd poteli hefyd.”