Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi “dychryn” o glywed am y diffyg craffu gan Lywodraeth Cymru ar Fil ôl-Brexit.
Bydd ‘Bil Masnach’ Llywodraeth San Steffan yn rhoi strwythur i bolisi masnach y Deyrnas Unedig wedi iddi adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y mesur yn effeithio ar feysydd datganoledig, ac mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn pryderu am ehangder y dylanwad hynny.
Yn eu hadroddiad newydd maen nhw’n beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chraffu yn ddigonol ar y Bil, ac yn galw ar weinidogion i fynnu newidiadau.
“Wedi dychryn”
“Er gwaethaf ein pryderon a godwyd dro ar ôl tro, rydym wedi ein dychryn bod y Gweinidog wedi dweud nad yw wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y pŵer hwn sy’n parhau yn y Bil cyfredol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Mick Antoniw.
Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yw’r gweinidog dan sylw.
Ar ôl iddo gael ei ddeddfu bydd gan y Bil, “oblygiadau sylweddol a hirdymor posibl i sectorau allweddol yng Nghymru”, meddai Mick Antoniw, gan gynnwys amaethyddiaeth, ac iechyd.
“Naïf”
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ymateb gan gyhuddo gweinidogion Llywodraeth Cymru o fod yn “hawdd i’w twyllo”.
“[Dyma stori am] weinidogion naïf Llafur Cymru yn derbyn addewidion San Steffan – maen nhw’n addo peidio sathru dros fuddiannau Cymru. Ydy hynna erioed wedi gweithio?” meddai.
“Rhaid bod yn gadarn eich safiad neu, fel arall, rhaid wynebu’r goblygiadau – dyna yw’r wers mae hanes Cymru yn ei gynnig.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.