Fe allai’r cyfnod mae pobl sydd â symptomau coronafeirws yn gorfod hunan-ynysu gael ei ymestyn i 10 diwrnod yn Lloegr, mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi awgrymu.

Mae disgwyl i’r dirprwy brif swyddog meddygol yr Athro Jonathan Van-Tam amlinellu’r newidiadau i’r canllawiau heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 30).

Ar hyn o bryd mae pobl sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws yn gorfod hunan-ynysu am saith diwrnod.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd a fydd y cyfnod hunan-ynysu, a gafodd ei gyflwyno ym mis Mawrth, hefyd yn cael ei ymestyn yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Daw’r newidiadau yn sgil pryderon am ail don o’r coronafeirws a’r ffrae ddiplomyddol ynghylch mesurau cwarantin o 14 diwrnod ar gyfer teithwyr sy’n dychwelyd o Sbaen.

Mae disgwyl i’r canllawiau i’r rhai hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad agos gyda rhywun sydd a’r coronafeirws aros yr un fath. Y canllawiau gan y Gwasanaeth Iechyd yw y dylai pobl hunan-ynysu am 14 diwrnod os ydyn nhw’n byw gyda, neu mewn “swigen” gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif, neu os yw swyddogion profi ac olrhain wedi bod mewn cysylltiad â nhw.

‘Ail don’

Wrth gael ei holi ar Sky News, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock bod gweinidogion hefyd yn edrych ar ffyrdd i leihau’r cyfnod cwarantin o 14 diwrnod i bobl sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig o wledydd sy’n cael eu hystyried yn risg.

Ond dywedodd na fyddan nhw’n cyhoeddi unrhyw newidiadau nes eu bod nhw’n “hyderus ei fod yn ddiogel i wneud hynny” gan ychwanegu bod ’na “bryder gwirioneddol am ail don sy’n amlwg yn digwydd ar draws Ewrop ac mae’n rhaid i ni weithredu.

“Os yw hynny’n golygu cynyddu nifer y dyddiau mae pobl sy’n cael prawf positif yn gorfod hunan-ynysu dyna fydd yn digwydd oherwydd mae’r mesurau yma yn angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel.”