Yn sgil pryderon mawr am ddyfodol y celfyddydau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £53m yn y sector ddiwylliant.

Bydd yr arian yn helpu unigolion a chyrff i ymdopi â’r argyfwng coronafeirws, ac mae disgwyl i lu o lefydd elwa gan gynnwys theatrau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, sinemâu, a gwyliau.

Ym mis Mehefin cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n rhoi £59m i Gymru fel rhan o’i phecyn cymorth £1.57bn ar gyfer y celfyddydau.

“Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail a gaiff y pandemig ar fywyd Cymru ac yn cymeradwyo’r cadernid a’r creadigrwydd a welwyd,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Bydd y pecyn hwn yn helpu i gefnogi nifer yn y sectorau wrth ymateb i bwysau a heriau’r coronafeirws, ac mae hefyd yn gyfle unigryw i sicrhau newid fesul cam – byddwn yn datblygu contract diwylliannol fel y gall y sector ailddechrau yn gryfach.”

Y gofidion a fu

Mae’r cyfnod clo wedi golygu bod mannau diwylliannol ledled y wlad ar gau, a bod gweithgarwch celfyddydol ar stop, ac mae hyn wedi esgor ar gryn drafodaeth.

Yr wythnos hon rhybuddiodd Siân Gwenllïan, o Blaid Cymru, y gallai’r diwydiant “ddiflannu dros nos” heb gymorth gan y Llywodraeth.

A phythefnos yn ôl, mi alwodd un o bwyllgorau’r Senedd am eglurder ynghylch sut y byddai’r £59m gan Lywodraeth San Steffan yn cael ei wario.

Fis diwetha’ mi rybuddiodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, bod y cyrff sy’n cael eu hariannu ganddyn nhw yn colli miliynau bob mis.

“Mae’r cronfeydd hyn yn golygu bod llai o berygl i’r sector creadigol ddadfeilio,” meddai yntau i’r cyhoeddiad heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 30).