Mae diwydiant celfyddydau Cymru yn colli miliynau o bunnoedd bob mis dan gysgod covid-19.
Dyna mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi ei ddatgelu wrth gyflyno tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd.
Yn ôl CCC, mae’r cyrff sy’n cael eu hariannu ganddyn nhw yn colli tua £1.4m yr wythnos yn sgil cau lleoliadau a chanslo perfformiadau.
Hefyd mae yna artistiaid a sefydliadau nad ydynt yn gymwys i dderbyn arian cymorth, ac mae Nick Capaldi, Prif Weithredwr CCC, wedi lleisio’i bryderon am hynny.
“Dyma’r dalent ifanc y mae ein dyfodol yn dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw’n cael eu rhwystro ar y cyfle cyntaf rhag cael troed ar ris yr ysgol,” meddai.
“Felly, rydyn ni’n edrych yn arbennig o ofalus ar y grwpiau hyn, sy’n mynd i lithro drwy’r rhwyd o ran yr hyn y gall cynlluniau cymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynnig.”
Colli arian
Mae cronfa £7.5m eisoes wedi ei sefydlu i gefnogi cyrff celfyddydol, ac yn ôl CCC mae gwerth £4m o geisiadau eisoes wedi’u cynnig – mae darogan na fydd y gronfa’n para tan fis Medi.
Wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor mae’r CCC hefyd wedi dweud y gall gymryd hyd at flwyddyn i theatrau a lleoliadau cyngerdd agor yn llawn eto.
Mae’n bosib y bydd un o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, yn colli £20m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Argymhellion
Mae’r pryderon yma wedi eu hadlewyrchu yn adroddiad diweddaraf Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; ac mae’r ddogfen yn cynnig tri argymhelliad.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn hyd y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (a sicrhau nad oes neb yn disgyn drwy’r rhwyd)
- sefydlu ‘gweithgor digwyddiadau ac adloniant’
- sgwrsio â chynrychiolwyr o’r sector celfyddydau er mwyn penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd yn y dyfodol