Mae Aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi penderfynu peidio ag is-raddio uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Roedd penaethiaid iechyd yn ystyried rhoi’r gorau i gynnig mynediad 24 awr i ymgynghorwyr clinigol yn yr uned.
Mae’r ymgyrch i achub yr uned frys wedi croesawu’r dewis.
Dywedodd Len Arthur, Cadeirydd SRGAE (Save Royal Glamorgan Hospital A&E) : “Rydym yn falch iawn bod aelodau’r Bwrdd wedi cydnabod yr effaith ofnadwy y byddai israddio Uned Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi’i gael ar bobl leol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y penderfyniad hwn bellach yn ddiwedd ar bennod gythryblus yn hanes yr ysbyty ac yn ddechrau dyfodol newydd, mwy disglair. ”
Mae’r ymgyrch yn nodi bod yr argymhellion, a gyflwynwyd gan Dr Nick Lyons, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, hefyd yn cyfeirio at sefydlu panel partneriaeth.
Yn ôl Diane Blackmore, is-gadeirydd SRGAE bydd y panel yn galluogi gwyntyllu syniadau, gosod agendâu, monitro ac atal toriadau.
Mae’r ymgyrch hefyd yn diolch i’r Bwrdd Iechyd am wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer uned mân anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwynypia.