Mae cynlluniau i is-raddio uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant wedi cael eu beirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae penaethiaid iechyd yn ystyried rhoi’r gorau i gynnig mynediad 24 awr i ymgynghorwyr clinigol yn yr uned.

Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod mewn adroddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddydd Iau (Ionawr 30).

Mae’r cynlluniau’n dilyn cytundeb yn 2014 i ganoli gwasanaethau iechyd yn y de, ac mae rhan o hynny eisoes wedi cael ei gyflawni.

“Dim ond yr wythnos hon fe gawson ni’r canlyniadau damweiniau ac achosion brys yn y Gwasanaeth Iechyd Cymreig, ond eto mae Llywodraeth Lafur Cymru’n galluogi’r is-raddio yma i ddigwydd,” meddai Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Does bosib y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar opsiynau i leihau’r ffigwr o fwy na 6,000 o bobol sy’n aros 12 awr neu fwy am driniaeth mewn unedau brys yng Nghymru.”