Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gwrthod ymrwymo i roi £59 miliwn i’r sector celfyddydau yng Nghymru.

Dywed y bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu sut mae unrhyw arian ychwanegol yn cael ei wario ar ôl i’r Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi diweddariad economaidd yr haf yn nes ymlaen yr wythnos hon.

Cafodd trafodaeth am y swm ei sbarduno ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi £1.57 biliwn o gefnogaeth i’r sector celfyddydau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys amgueddfeydd, galerïau, theatrau a lleoliadau cerddoriaeth.

Ond heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 6) dywedodd Mark Drakeford y byddai’n aros i asesu sut y byddai meysydd eraill o gyllid Cymru’n cael eu heffeithio yn dilyn araith Rishi Sunak i’r Senedd ddydd Mercher (Gorffennaf 8).

“Pan mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi ffigwr, yn aml beth wnawn nhw ddim dweud yw beth sy’n arian newydd, a pha arian sy’n cael ei ailgylchu o gyllideb bresennol,” meddai Mark Drakeford wrth gynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru.

“Dyna pam dwi’n gyndyn o ymrwymo i ddweud [unrhyw beth] ynglŷn â’r £59 miliwn, oherwydd gallwn gael gwybod ddydd Mercher ein bod yn colli arian yn sgil newidiadau eraill sy’n cael eu gwneud yn San Steffan ac nad oes yno £59 miliwn wedi’r cwbl”.

Ymateb

Dyw lleoliadau celfyddydol dal ddim yn cael agor, gyda Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd wedi gohirio eu holl sioeau tan Ionawr 2021 – gan roi 250 o swyddi yn y fantol.

Mae rheolwr-gyfarwyddwr y Ganolfan wedi dweud bod y cyhoeddiad cyllid yn “newyddion gwych” i’r sector.

Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod gan Lywodraeth Cymru “ddim esgus” i ddefnyddio’r £59 miliwn i warchod lleoliadau diwylliannol Cymru “ar frys”.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r £59 miliwn i gefnogi lleoliadau diwylliannol ar frys,” meddai eu harweinwr yn y Senedd, Paul Davies.

Yn y cyfamser, mae llythyr agored gan Blaid Cymru’n galw i’r £59 miliwn gael ei wario “yn llawn” ar y sector celfyddydau wedi cael ei lofnodi gan 67 o ffigurau blaenllaw yn y sector y gantores Charlotte Church a’r delynores Catrin Finch.