Mae llys wedi clywed bod y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Charlie Elphicke, wedi rhedeg ar ôl dynes yn ei gegin gan weiddi “Dwi’n Dori drwg” ar ôl ymosod arni’n rhywiol.
Clywodd y rheithgor bod yr Aelod Seneddol dros Dover wedi cydio ym mrest dynes a cheisio ei chusanu tra roedd ei wraig, Natalie Elphicke, i ffwrdd.
Roedd Charlie Elphicke, oedd yn 36 ar y pryd, wedi gwahodd y ddynes i rannu diod gydag ef yn ei gartref.
Wedi iddi gyrraedd, clywodd y llys ei fod wedi agor potel £40 o win cyn dechrau gofyn iddi am eu diddordebau rhywiol a dweud ei fod ef yn hoff o “chwipiau a chael ei glymu”.
Yna, aeth yn ei flaen i ymosod arni drwy gydio yn ei brest a cheisio ei chusanu.
“Fe floeddiodd (y dioddefwr) ‘Na!’ yn syth,” meddai’r erlynwyr.
“Roedd yn gweiddi ar ffurf cân: ‘Dwi’n Dori drwg, dwi’n Dori drwg’, fel petai hyn yn digwydd ar iard chwarae ysgol”.
Dywed y dioddefwr ei fod “wedi cyffroi ac yn amlwg yn mwynhau ei hun”.
Mae hi’n honni ei fod wedi rhedeg ar ei hôl o gwmpas y tŷ, gan drio taro ei phen-ôl.
Gwadu
Mae Charlie Elphicke yn gwadu tri achos o ymosod rhywiol – un yn erbyn dynes yn 2007, a dau achos yn erbyn gweithiwr seneddol yn ei hugeiniau cynnar ar ddau achlysur gwahanol yn 2016.
Dywed y ddynes yn ei hugeiniau ei bod wedi rhannu potel o champagne yng nghwmni Charlie Elphicke, pan wnaeth o ymosod arni’n rhywiol.
“Roedd ganddo’i wyneb ar fy wyneb i,” meddai.
“Roedd ei geg yn agored, yn ceisio fy nghusanu. Roedd o’n llanast afiach”.
Dywed erlynwyr fod y ddynes wedi ei “wrthod yn glir”, dweud wrtho ei fod yn briod, a bod yno fwlch oedran mawr.
Maen nhw’n yn honni bod Charlie Elphicke wedi ymateb drwy ddweud: “Beth yw’r ots? Wyt ti ddim yn fy hoffi? Mae popeth yn iawn.
“Dwi’n gallu bihafio mor ddrwg weithiau, ond alla i ddim helpu’r peth”.
Cafodd Charlie Elphicke ethol fel Aelod Seneddol Dover yn 2010, gan ddal y sedd tan iddo ymddiswyddo yn 2019. Ei wraig, Natalie Elphicke, sydd bellach yn y sedd.
Mae’r achos yn parhau.