Mae llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford gan Blaid Cymru yn rhybuddio y gallai’r sector gwympo o fewn “mis” heb weithredu brys.
Cadarnhaodd Llywodraeth San Steffan y byddai Cymru yn cael £59miliwn fel rhan o becyn cymorth Coronafirws gwerth £1.57biliwn ar gyfer y celfyddydau.
Mae llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS a Sian Gwenllian AS, Gweinidog Diwylliant y blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r £59miliwn “yn llawn” ac am dri “ymyrraeth bendant a brys” gan Lywodraeth Cymru.
Mae hyn yn cynnwys
- sefydlu a defnyddio tasglu brys sy’n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant
- buddsoddi fel rhan o gynllun adfer Covid-19
- darparu cynllun clir ar adferiad
Cefnogaeth
Mae’r llythyr wedi ei lofnodi gan 67 o ffigurau blaenllaw yn y sector, ac mae’r gantores Charlotte Church a’r delynores Catrin Finch ymhlith y dwsinau o ffigyrau blaenllaw o fewn y celfyddydau yng Nghymru sydd yn cefnogi galwad Plaid Cymru am “arweinyddiaeth gadarn” i arwain y sector allan o argyfwng yn sgil Covid-19.
Mae’r llofnodwyr hefyd yn cynnwys yr actor Carys Eleri, bardd cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn a’r actor Mark Lewis Jones.
Mae ffigurau yn y diwydiant wedi rhybuddio bod sector y celfyddydau yng Nghymru yn wynebu’r posibilrwydd real o ddiswyddiadau eang – gan gynnwys colli 250 o swyddi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae trosiant blynyddol y diwydiant yng Nghymru werth oddeutu £2.2 biliwn ac mae’n cyflogi tua 56,000 o bobl.
Dangos arweiniad
“Heb amheuaeth, mae’r cyhoeddiad y bydd £59 miliwn ar gael i ddiwydiant celfyddydau Cymru yn rhyddhad mawr i nifer o fewn y sector,” meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
“Ond nawr mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad yng Nghymru trwy sefydlu tasglu sy’n sicrhau bod yr arian yn cael ei ddosbarthu’n deg ar draws y sector.
“Ar ôl siarad ag aelodau o sector y celfyddydau, mae’n amlwg eu bod wedi bod yn gweiddi nerth esgyrn eu pennau am gymorth, cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn ystod yr argyfwng hwn.
“Mae ymgynghoriadau ar ddiswyddo yn digwydd nawr ledled y wlad ac ymhen ychydig wythnosau, bydd y broses honno’n ddi droi nol.
“Nid yw llawer o weithwyr llawrydd a ddisgynnodd trwy’r bylchau wedi derbyn ceiniog ers i’r argyfwng hwn ddechrau ac maent eisoes yn wynebu colli eu bywoliaeth.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddangos arweinyddiaeth trwy weithio gyda’r diwydiant i greu cynllun clir, diogel a chyfrifol a fydd yn arwain y diwydiant a’r gweithwyr yr effeithir arnynt o’r argyfwng.
Meddai Gweinidog Diwylliant Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS fod y nifer enfawr o lofnodion y tu ôl i’r llythyr yn dangos y gefnogaeth sydd y tu ôl i achub y celfyddydau.
“Mae’r celfyddydau yn elfen mor werthfawr yng Nghymru,” meddai,
“Nid yn unig yn ddiwylliannol ond yn economaidd hefyd. Os gadewir i’r diwydiant gwympo byddai ôl-effeithiau trychinebus.
“Mae’n rhaid i gefnogaeth i’r sector gyfan a chydnabyddiaeth o’i rôl wrth helpu pobl ledled Cymru i fynegi a dehongli argyfwng Covid fod yn rhan ganolog ac annatod o gynlluniau adfer Covid Llywodraeth Cymru.