Mae’r gadwyn fwyd a choffi Pret a Manger yn bwriadu cau 30 o siopau yn sgil effaith pandemig y coronafeirws, gan roi o leiaf 1,000 o swyddi yn y fantol.

Yn ôl Pret a Manger mae gwerthiant wedi gostwng 74% o’i gymharu â’r un cyfnod llynedd.

Bydd y cwmni yn lleihau nifer y staff sy’n gweithio yn eu siopau i adlewyrchu’r cwymp mewn galw.

Dywed Pret a Manger ei fod yn wynebu “colledion sylweddol” yn dilyn y pandemig, er ei fod wedi ailagor dros 300 o’i siopau.

Bydd y cwmni’n lansio proses o werthu prydles ei brif swyddfa ger Gorsaf Victoria yn Llundain fel rhan o’i gynllun ail strwythuro.

“Mae’n ddiwrnod trist i holl deulu Pret, ac rwyf yn hynod drist ein bod yn colli gymaint o weithwyr,” meddai Prif Weithredwr Pret a Manger Pano Christou.

“Dyw’r penderfyniadau ddim yn adlewyrchu gwaith nag ymrwymiad ein gweithwyr, ond mae’n rhaid i ni wneud y newidiadau hyn er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd manwerthu newydd”.