Mae’r newyddion am becyn diogelu gwerth £1.57 biliwn i fudiadau celfyddydol gan Lywodraeth Prydain i’w groesawu yn fawr, meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae hwn yn gymorth y bu hir alw amdano ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.

“Diflannodd incwm dros nos i nifer fawr o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, a gyda diwedd y cynllun ffyrlo ar y gorwel, roedd y dyfodol yn edrych yn llwm tu hwnt.

“Nid ydym yn gwybod eto pryd y bydd lleoliadau celfyddydol yn medru ail-agor, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn caniatáu i ni roi cynlluniau ar y gweill gydag ymdeimlad mwy gobeithiol nac o’r blaen.”

“Celfyddydau mor bwysig”

Yn ôl un o actorion Cymry Llundain mae yntau hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad, ond aros yn ddiogel yw’r brif flaenoriaeth meddai.

Bydd yn rhaid i’r theatrau sicrhau fod pawb yn ddiogel, a bod yr actorion a phawb sydd ynghlwm a’r cynhyrchiad yn gyffyrddus, meddai Iddon Alaw Jones sy’n wreiddiol o Ynys Môn.

“Dwi’n gobeithio nad ydi o’n rhy hwyr,” meddai Iddon Alaw Jones.

“Mae unrhyw nawdd fel yna yn hwb, yn enwedig i’r celfyddydau sydd wedi bod yn cadw pobl yn iach yn feddyliol, mae o wedi rhoi lot o obaith i bobl.

“Mae’r celfyddydau mor bwysig yn ein bywyd o ddydd i ddydd, ac mae’n anodd meddwl bod ‘na gymaint o bobl dw i’n eu nabod sydd yn gwneud gwaith colur, i bobl sydd yn goleuo, i bobl sydd yn ysgrifennu sydd wedi disgyn rhwng y craciau.”

Gobaith yr actor yw y bydd yr arian yma’n mynd i gefnogi’r adeiladau a’r sefydliadau fydd yn eu tro yn helpu’r gweithwyr eraill sydd ynghlwm a nhw.

“Dim sicrwydd fod pobl am ddod i’r theatrau”

Ond er ei fod yn croesawu’r arian, mae Iddon Alaw Jones yn credu fod gan y theatrau yma broblem arall i’w hwynebu cyn y gallan nhw feddwl am ail agor, petai’n nhw’n derbyn dyddiad penodol.

“Does ‘na ddim posib sicrhau fod yna gynulleidfaoedd mawr yn mynd i gyrraedd. Mae ‘profit margins’ theatrau yn dibynnu fod yna gannoedd o seddi yna a’u bod nhw i gyd yn llawn.

“Dwi’m yn siŵr os fydd theatrau eisiau agor. O ran yr ochr fusnes, os oes rhaid talu cymaint o bobl sydd ynghlwm â’r cynhyrchiad ond yn methu gwneud elw yn y pen draw.

“Er mwyn gwneud cynhyrchiad ym mis Tachwedd bydd rhaid gwario’r pres ym mis Gorffennaf, a pham gwario’r pres os nad oes sicrwydd fod pobl am ddod?”

Angen gweithio’n gyflym

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, y sector gelfyddydol fydd y sector olaf i ailgydio wedi’r pandemig, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau fod yr arian yn cyrraedd y sefydliadau yn gyflym.

“Yn ychwanegol at y cymorth ariannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu swyddi, gan gynnwys y celfyddydau yng Nghymru, drwy’r cynllun cadw swyddi Covid-19, bydd yr help ychwanegol hwn yn mynd yn bell i helpu’r sector” meddai David Melding AS.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod yr arian hwn yn cyrraedd y sefydliadau sydd ei angen yn gyflym ac ar bob lefel o gelf, gan gynnwys celfyddyd gymunedol.

“Byddaf yn annog Llywodraeth Cymru i wario’r £59 miliwn cyfan ar sector y celfyddydau gan ei bod yn eithaf clir y bydd yn un o feysydd olaf yr economi i adennill ar ôl Covid-19.”